Mae Comisiwn y Gyfraith yn argymell system dribiwnlysoedd unedig yng Nghymru.
Mae hyn yn golygu cyflwyno system dribiwnlysoedd unedig newydd yng Nghymru i ddisodli’r tribiwnlysoedd sydd ar wahân fel ag y maen nhw ar hyn o bryd.
Mae tribiwnlys yn cael ei sefydlu i ddatrys anghydfodau sydd fel arfer yn deillio o benderfyniadau cyrff cyhoeddus.
Maen nhw’n sicrhau cyfiawnder i rai o’r bobol fwyaf bregus yn ein cymdeithas.
Er hyn, mae rheolau a gweithdrefnau tribiwnlysoedd datganoledig Cymru yn gymhleth ac yn anghyson, ac mewn rhai amgylchiadau, dydyn nhw ddim yn addas i’w pwrpas.
Er mwyn gwella’r ffordd maen nhw’n cael eu gweinyddu, mae Comisiwn y Gyfraith yn argymell tribiwnlys newydd, Tribiwnlys Haen Gyntaf Cymru, a fyddai’n disodli’r tribiwnlysoedd presennol yng Nghymru.
Byddai’n cael ei rannu i siambrau fel ‘siambr eiddo’ a ‘siambr addysg’.
‘Dyddio a chymhleth’
Dywed Nicholas Paines, Comisiynydd Cyfraith Gyhoeddus a’r Gyfraith yng Nghymru, fod y system bresennol yn y wlad hon wedi “dyddio” a’i bod yn “gymhleth”.
“Nid yw’n bodloni anghenion cyhoeddus Cymru mewn modd effeithiol, mae’n amlwg bod angen trawsnewid,” meddai.
“Byddai ein hargymhellion yn creu un system dribiwnlysoedd unedig sy’n addas ar gyfer y 21ain Ganrif ac yn gallu addasu i newidiadau’r dyfodol.”
Argymhellion
Yn rhan o’r system newydd, mae’r Comisiwn hefyd yn argymell:
- creu Tribiwnlys Apêl i Gymru, er mwyn clywed apeliadau o Dribiwnlys Haen Gyntaf Cymru.
- creu Pwyllgor Gweithdrefnau Tribiwnlysoedd a fyddai’n gyfrifol am adolygu a diweddaru gweithdrefnau.
- creu adran heb weinidogion a fyddai ar wahân i Lywodraeth Cymru ac yn gyfrifol am reoli’r system tribiwnlysoedd, i ddisodli’r Uned Tribiwnlysoedd Cymru presennol.
Datblygodd y system dribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr ar hap, gyda thribiwnlysoedd yn cael eu creu lle bynnag yr oedd adran unigol yn y llywodraeth yn credu bod angen.
Cafodd pob tribiwnlys unigol ei sefydlu i daclo problem benodol, gan arwain at system heb ei chynllunio ac anhyblyg.
Arweiniodd hyn at fylchau ac anghysondeb yn y ddeddfwriaeth.
Yn dilyn Deddf Cymru 2017, cafodd rôl Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ei chreu, ac roedd honno, yn ôl comisiwn y Gyfraith, yn “gam ymlaen”.
Ond mae’r argymhellion newydd hyn yn mynd cam ymhellach,
Mae’r adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Senedd, a bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu maes o law a ddylid gweithredu’r newidiadau arfaethedig.