Mae seiclwr wedi marw mewn gwrthdrawiad ffordd ar yr A487 ger Bangor yn gynharach heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 9).

Fe ddigwyddodd y ddamwain rhwng fan a beic o gwmpas 7yb ger cylchfan Tŷ Golchi ar gyrion y ddinas , ac fe gafodd y ffordd ei chau wrth i’r gwasanaethau brys ymateb i’r digwyddiad.

Cafodd y seiclwr, a oedd yn ei 40au a’n lleol i’r ardal, ei gludo i Ysbyty Gwynedd, lle bu farw yn ddiweddarach.

Mae gyrrwr y fan, dyn 38 oed, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, ac mae’n parhau yn y ddalfa prynhawn heddiw.

Roedd y ffordd yn parhau i fod ar gau am 12:04 heddiw, yn ôl Traffig Cymru, ac roedd yr heddlu yn galw ar deithwyr i ganfod ffordd amgen os ydyn nhw’n bwriadu teithio’r ffordd honno.

Apêl yr heddlu

Dywedodd Sarjant Liam Ho o Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau’r dyn a fu farw yn anffodus.

“Rydyn ni angen sefydlu’r amgylchiadau o gwmpas y gwrthdrawiad ac rwy’n apelio ar unrhyw yrwyr a oedd yn teithio yn yr ardal, ac a allai fod wedi gweld rhywbeth perthnasol ar dash cam, i gysylltu â ni.

“Rwyf am ddiolch i’r cyhoedd am eu hamynedd a dealltwriaeth tra bod y ffordd ar gau. Mae hyn yn hollol hanfodol er mwyn inni gynnal ymchwiliad safle trylwyr.”

Mae unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad, neu sydd â lluniau dash cam, yn cael eu hannog i gysylltu â swyddogion Uned Plismona’r Ffyrdd un ai drwy’r sgwrs ar-lein neu drwy ffonio 101, a defnyddio’r cyfeirnod 21000851645.