Rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn onest a dweud nad yw rhai gwasanaethau trên yng Nghymru yn ddiogel, meddai llefarydd trafnidiaeth Plaid Cymru.

Mae Delyth Jewell wedi dweud na ddylai Llywodraeth Cymru honni bod trenau yn “sylfaenol ddiogel”, a’u bod nhw’n gwrth-ddweud eu hunain wrth honni hynny.

Gofynnodd Delyth Jewell i Ddirprwy Weinidog Trafnidiaeth Cymru, Lee Waters, a yw’n cytuno gyda Phrif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru sydd wedi dweud bod trenau’n “sylfaenol ddiogel”.

Dywedodd Lee Waters eu bod nhw’n “sylfaenol ddiogel”, a bod heriau’n codi gyda chael gormod o bobol ar y trenau.

Canllawiau Covid

Ond yn ôl Delyth Jewell, mae lluniau o drenau llawn yn “dystiolaeth ddiamau” nad yw’r amodau ar drenau’n cyd-fynd â chanllawiau Covid Llywodraeth Cymru.

Mae aelodau o’r cyhoedd wedi bod yn rhannu eu profiadau am deithio ar drenau’n ddiweddar gyda Delyth Jewell, gyda rhai’n dweud bod “neb yn gwisgo mygydau”, bod “pobol wedi’u gwasgu fel sardîns”, ei bod hi’n “amhosib sicrhau diogelwch Covid”, a bod “ffenestri wedi cau a heb systemau awyru”.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi mai’r “elfennau allweddol” ar gyfer lleihau’r risg o ledaenu Covid yw cadw pellter oddi wrth bobol eraill, osgoi llefydd llawn, sicrhau awyru da os ydych chi’n agos at eraill, a gwisgo mygydau.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth yn y Senedd bod “trenau yn ddiogel, yn sylfaenol, o ystyried y prosesau glanhau, a’r holl bethau eraill mae Trafnidiaeth Cymru’n eu gwneud i ddilyn y canllawiau”.

“Afresymegol”

Wrth ymateb, dywedodd Delyth Jewell, sy’n Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru: “Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi y dylai pobol gadw eu pellter mewn mannau cyhoeddus, osgoi llefydd llawn, ynghyd â sicrhau eu bod nhw mewn llefydd ag awyru da a lle mae pobol yn gwisgo mygydau – amodau sy’n amhosib cadw atyn nhw ar nifer o wasanaethau trên gan fod gormod o bobol arnyn nhw a’r anallu i orfodi pobol i wisgo mygydau.

“Mae dweud wrth bobol fod gwasanaethau trenau yn “sylfaenol ddiogel” pan nad ydyn nhw’n gallu sicrhau nad oes risg i’r feirws ledaenu yn sgil trenau llawn yn golygu y bydd pobol, rhai ohonyn nhw’n agored i niwed efallai, yn gwneud eu hunain yn agored i’r risg ar yr amod anghywir nad yw’r fath risg yn bodoli.

“Mae hi’n gwbl afresymegol i Lywodraeth Cymru honni bod pasys Covid yn angenrheidiol i gadw pobol yn ddiogel mewn lleoliadau mawr, hyd yn oed rhai gydag awyru da ac ymbellhau cymdeithasol, ar un llaw tra’n honni ei bod hi’n hollol ddiogel i unrhyw un gymysgu ar drenau llawn heb ddim ymbellhau cymdeithasol, dim awyru, a dim sicrwydd nad yw teithwyr eraill wedi’u heintio, ar y llaw arall.

“Dw i’n deall yr anawsterau mae Trafnidiaeth Cymru yn eu hwynebu o ran gwneud gwasanaethau yn ddiogel, fodd bynnag, mae hi’n anghywir, yn syml, rhoi sicrwydd ffug i bobol am eu diogelwch, felly fe ddylen nhw gadarnhau mor fuan â phosib bod yna wasanaethau’n bodoli lle na allen nhw sicrhau diogelwch, ac os yn bosib, rhoi manylion ynghylch pa wasanaethau sy’n debygol o fod yn rhy brysur i gadw at ganllawiau diogelwch Covid y llywodraeth fel bod pobol yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus am y risg.”

“Amgylchedd ddiogel”

Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: “Rydym yn parhau i weld galw mawr am ein gwasanaethau, yn enwedig ar amseroedd cymudo brig ac ar y penwythnosau.

“Rydym yn parhau i weithio’n galed i gynnal ein mesurau diogelwch, gan gynnwys gwell trefniadau glanhau ar y trenau ac mewn gorsafoedd, gwasanaethau ychwanegol neu gludiant ffordd lle bo hynny’n bosibl a gweithio ochr yn ochr â Heddlu Trafnidiaeth Prydain i sicrhau bod pobl yn gwisgo gorchuddion wyneb, oni bai eu bod wedi’u heithrio.

“Dylai cwsmeriaid fod yn ymwybodol nad yw pellter cymdeithasol yn bosibl ar rai o’n gwasanaethau prysuraf felly dylent ystyried a ydyn nhw am deithio ar drenau sy’n debygol o fod yn brysur, gan ddefnyddio ein teclyn Gwirio Capasiti.

“Ym mis Mehefin eleni, cynhaliodd Coleg Imperial Llundain astudiaethau oedd yn cynnwys 25 sampl mewn sawl gorsaf yn y Deyrnas Unedig o arwynebau a gyffyrddir yn aml ym mhob gorsaf a chymryd samplau o aer ar ymgynullfannau a threnau, ac roedd pob canlyniad yn negyddol.

“Ni ddarganfuwyd unrhyw olion o RNA SARS-CoV-2 ar arwynebau nac yn yr awyr naill ai mewn gorsafoedd nac ar y trenau.

“Atgyfnerthodd y canlyniad hwn ganlyniadau arolwg tebyg a gwblhawyd gan Goleg Imperial ym mis Ionawr 2021, gan ddangos nad yw trenau yn anniogel yn eu hanfod nac yn cyflwyno risg uchel o drosglwyddo’r haint a bod y mesurau sydd ar waith yn effeithiol.

“Rydyn ni’n darparu amgylchedd diogel o ran covid yn dilyn arweiniad y Llywodraeth a’r diwydiant. Rydyn ni’n gofyn i’n holl gwsmeriaid fod yn gyfrifol, gwisgo gorchudd wyneb oni bai eu bod wedi’u heithrio, peidio â theithio os ydyn nhw’n teimlo’n sâl neu’n dangos unrhyw symptomau ac yn parchu ein staff a’n cwsmeriaid eraill.”

Trafnidiaeth Cymru dan y lach unwaith eto am drenau gorlawn

Roedd trenau gorlawn wedi eu gweld yn dilyn y gêm rhwng Cymru ac Awstralia dros y penwythnos

Pryder am “anghysondeb” o ran gwisgo gorchudd wyneb ar drenau

Bu’n rhaid i Weinidog Llywodraeth Cymru atgoffa’r tocynydd ar drên bod gorchudd wyneb yn ofynnol yng Nghymru.