Mae dyn a wnaeth drywanu dyn arall yn ei gefn saith gwaith yn Aberteifi wedi cael ei garcharu am oes am lofruddiaeth.

Bydd Ashley Keegan, 22, yn treulio o leiaf 20 mlynedd yn y carchar am lofruddio John Bell, 37, ar 21 Gorffennaf eleni.

Roedd John Bell yn “fab, brawd, tad ac ewythr cariadus a ffyddlon”, meddai ei deulu mewn teyrnged, a doedd yr un o’r ddau’n adnabod ei gilydd cyn yr ymosodiad.

Roedd Ashley Keegan wedi bod yn yfed tu allan i’w gartref yn Golwg y Castell yn ystod prynhawn a noswaith 20 Gorffennaf.

Ymddygiad “eratig”

Wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen, aeth ei ymddygiad yn fwy “eratig”, ac roedd yn ymosodol tuag at John Bell a’i ffrind Daniel Saunders pan wnaethon nhw gyrraedd cartref ei gymydog, mam Daniel Saunders, Amanda Simpson.

Tua 11:40yh, daeth Daniel Saunders allan o’r tŷ, a chafodd ei roi mewn tacsi gan Amanda Simpson, a dechreuodd Ashley Keegan ymddwyn yn ymosodol eto.

Aeth y tacsi, a chafodd Amanda Simpson ei gwthio i’r llawr yn ystod y ddadl.

Trodd Ashley Keegan ei sylw at John Bell wedyn, gan geisio ei ddyrnu yn ei ben sawl gwaith.

Clywodd Llys y Goron Abertawe na wnaeth John Bell gwffio’n ôl, ond ei fod wedi dal ei ddwylo ger ei fron gan drïo sefydlogi’r sefyllfa, neu ddal ei ddwylo dros ei ben er mwyn amddiffyn ei ben a’i wyneb.

Cerddodd John Bell i ffwrdd wedyn, ond aeth Ashley Keegan i ’nôl cyllell gegin fawr cyn mynd ar ei ôl.

Fe wnaeth Ashley Keegan ei drywanu sawl gwaith o’r cefn, cyn cerdded i ffwrdd. Gwelodd tystion e’n taflu’r gyllell, cyn iddo droi am adre a dweud wrth ei bartner, Chloe Phillips: “Dw i wedi ei drywanu.”

Ychydig cyn hanner nos, clywodd yr heddlu gan sawl person a oedd wedi gweld y digwyddiad, a gan aelod o’r cyhoedd welodd John Bell wedi’i anafu ac yn gwaedu ar Bont Aberteifi.

Er bod ymdrechion wedi bod i’w achub, bu farw yn y fan a’r lle wedi i’r heddlu gyrraedd.

“Troseddwr peryglus”

Wrth siarad wedi’r ddedfryd, dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Gareth Roberts: “Mae dedfrydu Ashley Keegan heddiw i oes yn y carchar am lofruddiaeth greulon John Bell yn Aberteifi ym mis Gorffennaf 2021 i’w groesawu.

“Mae ein meddyliau gyda theulu John ar yr adeg hon, bydd effaith ddinistriol y golled ddiangen, drasig hon yn un fydd yn para’n hir i’r teulu agos hwn.

“Mae teulu John wedi bod yn barchus ac urddasol drwy gydol y broses cyfiawnder troseddol a does dim canlyniad a fyddai’n gwneud iawn am eu colled, ond dw i’n gobeithio y bydd rhyw gysur i’w gael wrth garcharu troseddwr peryglus, treisgar, fydd ddim yn gallu niweidio eraill nawr.

“Roedd gweithredoedd Keegan ar nos Fawrth, 20 Gorffennaf, 2021 yn greulon a llwfr. Doedd Keegan na John yn adnabod ei gilydd cyn hyn, ac roedd marwolaeth John yn weithred ddiangen heb unrhyw gymhelliad blaenorol.”

Dywedodd hefyd ei bod hi’n annhebygol fod John Bell yn gwybod fod Keegan tu ôl iddo pan wnaeth ei drywanu.

“Ni wnaeth Ashley Keegan ffonio ambiwlans, yn hytrach fe wnaeth guddio yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Cilgerran nes cael ei ddal.

“Yn genedlaethol, mae yna gynnydd mewn pobol sy’n cario cyllyll. Rydyn ni’n ffodus yn ardal Dyfed-Powys fod troseddau treisgar gan ddefnyddio arfau yn brin ac yn anrheolaidd.

“Fodd bynnag, mae modd gweld y goblygiadau trasig mewn achosion fel hyn.”

Dyn wedi ei arestio wrth i Heddlu Dyfed Powys gynnal ymchwiliad i lofruddiaeth yn Aberteifi

Teulu John Bell, 37, yn talu teyrnged i “fab, brawd, tad ac ewythr cariadus a ffyddlon”