Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i honiadau sy’n cylchredeg ar y we fod Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn dymuno gweld cyfnod clo llawn yng Nghymru rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, drwy ddweud nad ydynt “yn rhagweld y bydd rhaid gwneud newidiadau sylweddol … ar hyn o bryd.”

Roedd y wefan wleidyddol adain-dde, Guido Fawkes, wedi honni bod Mark Drakeford wedi “galw yn breifat” am gyfnod clo llawn mewn galwad ffôn â Michael Gove, yn rhinwedd ei swydd yntau fel Ysgrifennydd Cysylltiadau Rhynglywodraethol.

Roedd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, ar yr alwad hefyd ynghyd ag Ysgrifenyddion Gwladol Gogledd Iwerddon.

Wrth ymateb i gais golwg360 am ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd am wneud “sylwadau ynglŷn â thrafodaethau preifat.”

Ond ychwanegodd llefarydd: “Er bod pryder cynyddol am yr amrywiolyn Omicron, nid ydym yn rhagweld y bydd yn rhaid gwneud newidiadau sylweddol i’r rheoliadau presennol ar hyn o bryd.”

Ar hyn o bryd mae naw achos o Omicron wedi’u cadarnhau yng Nghymru.

Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Mae’n debyg y byddai angen cydweithrediad Trysorlys y Deyrnas Unedig i gael cyfnod clo arall yng Nghymru, er mwyn ariannu cynllun ffyrlo i fusnesau.

Ddoe (dydd Mercher 8 Rhagfyr), nododd y Canghellor Rishi Sunak na fyddai cymorth ariannol o’r fath ar gael.

Ddoe, hefyd, fe gyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y byddai gorchuddion wyneb yn orfodol ar gyfer y rhan fwyaf o leoliadau cyhoeddus dan do yn Lloegr gan gynnwys mannau addoli, theatrau a sinemâu – yn ogystal ag ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Felly, yn Lloegr, o ddydd Llun 13 Rhagfyr, dylai pobl weithio gartref os yw’n bosib – gan ddilyn rheolau oedd eisoes mewn grym yng Nghymru a’r Alban.

“Ton aruthrol”

Mae disgwyl i Mark Drakeford gyflwyno’r adolygiad diweddaraf o sefyllfa Covid yng Nghymru, a’r rheoliadau sydd ynghlwm wrth hynny, mewn cynhadledd i’r Wasg yfory (Rhagfyr 10).

Mae eisoes wedi rhybuddio bod Cymru ar drothwy “moment arall a allai fod yn beryglus” a “thon aruthrol” o achosion o’r amrywiolyn Omicron.

Wrth siarad ar lawr y Siambr ddechrau’r wythnos, fe ddywedodd fod angen “paratoi ein hunain ar gyfer y potensial o don aruthrol o heintiau newydd yn y flwyddyn newydd, ymhen chwe wythnos, os na allwn arafu lledaeniad yr amrywiolyn newydd hwn”.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd pob oedolyn yn cael cynnig brechlyn atgyfnerthu erbyn diwedd mis Ionawr.

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno unrhyw gyfyngiadau newydd eto mewn ymateb uniongyrchol i’r amrywiolyn newydd – ond fe rybuddiodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan nad oedd modd rhoi “sicrwydd ar hynny” gan fod y Llywodraeth yn parhau “i ddysgu am y sefyllfa.”

Eisoes mae angen pasys ar gyfer sinemâu, theatrau, clybiau nos a digwyddiadau mawr yng Nghymru.

Ond mae Mark Drakeford wedi dweud y bydd penderfyniad ynghylch ymestyn pasys Covid i dafarndai a bwytai yn cael ei wneud ar y “funud olaf”.

Ceidwadwyr yn parhau i wrthwynebu

Ddiwrnod cyn cyhoeddi adolygiad Llywodraeth Cymru, fe ddywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies na fyddai’n ystyried cefnogi pasbortau brechu yng Nghymru er bod ei blaid bellach ar fin eu defnyddio yn Lloegr.

Fe ddywedodd ar ei gyfrif Twitter: “Er mwyn bod yn glir, yn y Senedd, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi gwrthwynebu cyflwyno pasbortau brechlyn ledled Cymru,” meddai.

“Hyd yma, does dim tystiolaeth wedi’i darparu i ddangos eu bod yn atal lledaeniad coronafeirws.

“Oherwydd hyn, byddwn yn parhau i bleidleisio yn erbyn eu defnydd, ac unrhyw estyniad, yng Nghymru.”

Cymru “ar drothwy ton aruthrol” o achosion Omicron, yn ôl Mark Drakeford

Pum achos sydd yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae disgwyl i’r ffigwr hwnnw godi’n sylweddol gan gyrraedd uchafbwynt ddiwedd mis Ionawr

“Dim amser i’w wastraffu” wrth roi brechlynnau atgyfnerthu

Disgwyl i’r don o achosion Omicron gyrraedd ei brig yng Nghymru ddiwedd mis Ionawr, meddai Eluned Morgan, sy’n dweud “nad yw amser ar ein hochor”