Mae cynghorwyr Conwy wedi gwneud tro pedol i gynyddu’r premiwm treth cyngor ar ail dai i 50%.
Roedd y cyngor wedi penderfynu codi’r premiwm i 50%, ond fe wnaeth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wrthdroi’r penderfyniad, ac argymell ei gadw ar 25% ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Mewn cyfarfod cyngor heddiw (10 Rhagfyr), fe wnaeth 26 cynghorydd bleidleisio yn erbyn cynyddu’r premiwm i 50%, o gymharu â’r 17 bleidleisiodd o blaid.
Wrth ymateb i’r bleidlais derfynol heddiw (9 Rhagfyr), dywedodd Cymdeithas yr Iaith fod Cyngor Conwy yn “amddifadu pobol ifanc o’r hawl i fyw yn eu cymunedau”.
“Mae Cyngor Conwy yn amddifadu pobol ifanc o’r hawl i gartref yn eu cymuned eu hunain drwy ddadwneud penderfyniad blaenorol i gynyddu’r premiwm treth cyngor ar ail dai i 50%.
“Mae gosod buddion perchnogion ail gartrefi yn uwch na hawliau pobol i fyw yn eu cymunedau yn anfoesol ac anghyfiawn.”
“Ennyn teimladau cryf”
Yn ystod y cyfarfod heddiw, dywedodd aelod Cabinet Cyngor Conwy dros Gyllid, y Cynghorydd Brian Cossey, ei fod yn gwybod fod y pwnc yn un sy’n “ennyn teimladau cryf” a’i fod yn tybio bod sbectrwm llawn o farn ar y mater yn y Cyngor.
“Ond fel dw i’n gweld o’r cytundeb rhwng y Llywodraeth a Phlaid [Cymru], mae hyn am fod yn un o’u blaenoriaethau nhw,” meddai.
“A dw i wir yn gobeithio y bydd gennym ni ganllawiau newydd i lywodraethu yn y maes penodol hwn erbyn yr adeg hon flwyddyn nesaf.
“Mae’r adroddiad a’r argymhellion wedi cael eu trafod gan y pwyllgor craffu a’r cabinet.”
Wrth drafod y mater dywedodd y Cynghorydd Brian Cossey (Democratiaid Rhyddfrydol) mai awgrym oedd y mesur gafodd ei basio llynedd i godi’r premiwm ar gyfer ail dai i 50% yn 2022, ac nid rhywbeth pendant.
“Roedd yn dibynnu ar adolygiad yn ystod y flwyddyn hon.
“Mae grŵp gweithio wedi ystyried yr opsiynau wrth fynd ymlaen. Ar ôl ystyried y wybodaeth, a chanlyniadau’r ymgynghoriad diweddaraf yn ofalus, mae’r grŵp gweithio yn argymell bod y premiymau ar gyfer tai gwag hirdymor ac ail dai yn aros yr un fath ag yn y flwyddyn bresennol ar gyfer 2022/23.”
“Gwaethygu’r argyfwng”
Y Cynghorydd Aaron Wynne wnaeth y cynnig i ddiwygio’r cynnig gwreiddiol er mwyn cynyddu’r premiwm ar gyfer ail gartrefi i 50%, a dywedodd wrth golwg360 yr wythnos ddiwethaf fod y penderfyniad i beidio â chodi’r premiwm ar yr un raddfa â siroedd cyfagos yn golygu bod Conwy yn “lle llawer iawn mwy deniadol i brynu ail dŷ”.
“Yn ystod fy amser fel Cynghorydd dw i wedi eistedd mewn sawl cyfarfod lle rydyn ni wedi trafod yr argyfwng yma yng Nghonwy, argyfwng tai sy’n effeithio pobol ifanc, fel fi, yn anghymesur.
“Mae ail dai a thai gwag yn gwaethygu’r argyfwng hwn drwy gynyddu’r galw am dai, ac felly cynyddu’r gost o brynu tŷ.
“Pan wnaeth pwyllgor craffu drafod y cynnig hwn, roedd rhai aelodau’n bryderus y byddai cynyddu’r premiwm yn arwain at ostyngiad mewn incwm.”
Mae Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno premiwm treth cyngor o 100% ar ail gartrefi, a dywedodd y Cynghorydd Aaron Wynne wrth y cyfarfod fod aelod Cyngor Gwynedd dros Dai, Craig ap Iago, yn dweud nad yw wedi arwain at ostyngiad yn imcwm yr awdurdod, nac wedi arwain at bobol yn newid statws eu tai fel eu bod nhw ddim yn gorfod talu unrhyw dreth.
“Yn hytrach, mae Gwynedd wedi gweld cynnydd sylweddol mewn refeniw o tua £3 miliwn, ac fel ni maen nhw’n bwriadu gwario’r arian ychwanegol hwn o fewn eu cyllideb tai.”
Cafodd rhai pryderon eu codi gan aelodau o’r pwyllgor craffu ynghylch effaith codi’r premiwm ar dwristiaeth hefyd.
Er nad yw Aaron Wynne yn amau fod twristiaeth yn cyfrannu at yr economi, dywedodd y byddai teulu sy’n byw mewn tŷ llawn amser yn cefnogi’r economi leol “llawer iawn mwy”.
Ers cyflwyno’r premiwm yng Ngwynedd yn 2018, does dim tystiolaeth i ddangos ei fod wedi cael effaith negyddol ar dwristiaeth.