Mae llefarydd Plaid Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb wedi lambastio sylwadau gan Aelod o’r Senedd Ceidwadol, gan ddweud eu bod nhw’n “dathlu bodolaeth banciau bwyd”.
Dywedodd Sioned Williams AoS, fod sylwadau Gareth Davies AoS am fanciau bwyd yn y Senedd ddoe (8 Rhagfyr) yn “gwbl afiach”.
Yn ystod y ddadl, dywedodd Gareth Davies mai nad banciau bwyd yw’r gelyn, ond yn hytrach tlodi, ond ein bod ni ddim yn byw mewn byd delfrydol.
Wrth ymateb, dywedodd Sioned Williams ei fod wedi “methu pwynt y ddadl yn gyfan gwbl”, ac mai “ewyllys gwleidyddol” yw’r rheswm dros beidio â chael byd delfrydol.
“Tlodi yw’r gelyn”
Yn ystod dadl ar gynnig Plaid Cymru i alw ar Lywodraethau Cymru a San Steffan i gydnabod hawl pobol i gael bwyd, dywedodd Gareth Davies: “Mewn byd delfrydol, ni fyddai gennym dlodi, ond nid ydym yn byw mewn byd delfrydol…
“Mae canfyddiad cyhoeddus na ddylai fod angen banciau bwyd yn y gymdeithas heddiw a bod eu bodolaeth yn ganlyniad i fethiannau gwleidyddol.
“Mae’r canfyddiad a’r stigma hwn yn lleihau gwaith caled banciau bwyd fel y Kings Storehouse ac yn atal y rhai mewn angen rhag defnyddio’r gwasanaethau. Ac ni ddylid pardduo banciau bwyd.”
Yn ystod y ddadl, gofynnodd yr Aelod Llafur Huw Irranca-Davies wrth Gareth Davies pam fod cynnydd wedi bod mewn defnydd o fanciau bwyd ers 2010.
Methodd ag ateb, ac awgrymodd yr Aelod Ceidwadol dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders, mai twf yn boblogaeth sy’n gyfrifol am y cynnydd.
Wrth barhau â’i ddadl, dywedodd Gareth Davies: “Mae banciau bwyd yn bodoli i helpu pobol mewn argyfyngau, a dw i’n ailadrodd mai nad nhw yw’r gelyn.
“Tlodi yw’r gelyn, ac yn anffodus dydi Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Plaid [Cymru] ar y meinciau rheiny, heb wneud dim i fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru ers dau ddegawd.”
“Agwedd afiach”
Yn ôl Sioned Williams, yr Aelod o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, mae sylw Gareth Davies yn “crisialu agwedd afiach y Torïaid tuag at fanciau bwyd”.
“Mae chwarter Cymru yn byw mewn tlodi. Roedd clywed Aelod o’r Senedd Torïaidd yn dathlu bodolaeth banciau bwyd yn gwbl afiach.
“Nid yw’r cynnydd aruthrol mewn banciau bwyd ers 2010 wedi digwydd o ganlyniad i hud a lledrith – ond yn hytrach o ganlyniad i doriadau ideolegol a bwriadol y Torïaid.
“Roeddwn i’n hynod, hynod o bryderus i glywed Gareth Davies yn methu pwynt y ddadl yma yn gyfan gwbl yn ei gyfraniad, drwy ddweud ei fod am weld banciau bwyd, ac felly’r achos o dlodi, yr angen sy’n gwneud banciau bwyd yn hanfodol, yn parhau.
“Dywedodd na fyddai gennym dlodi ‘mewn byd delfrydol’. Y pwynt yw nad ydym yn byw mewn byd delfrydol o ganlyniad i ewyllys gwleidyddol.
“Mae’r sylwad hwn gan Gareth Davies yn crisialu agwedd afiach y Torïaid tuag fanciau bwyd, tuag at y tlawd a thuag at y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.
“Rwy’n cefnogi’r gwaith da y mae gwirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru yn ei wneud i fwydo’r tlotaf yn ein cymdeithas, ond y pwynt yw mai polisi llymder Llywodraeth Geidwadol San Steffan sy’n gyfrifol am greu’r angen yma yn y lle cyntaf.”
“Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Bevan yn datgelu bod ‘storm berffaith’ o incwm yn gostwng a chostau yn codi wedi cyrraedd, sydd yn gwaethygu’r sefyllfa hyd yn oed ymhellach,” meddai Sioned Williams.
Hawl i fwyd
Dywedodd Sioned Williams yn y Senedd ei bod hi’n amhosib gwadu “bod rhywbeth mawr o’i le ar ein cymdeithas”.
“Sawl tro dros y misoedd diwethaf ry’n ni wedi clywed cyfeiriadau yn y Siambr hon at y storm berffaith o incwm yn gostwng a chostau byw yn cynyddu, o tswnami o angen sydd yn raddol godi ac ar fin taro gormod o’n haelwydydd.” meddai.
“Mae’r cysylltiad rhwng prisiau bwyd yn codi wrth i incwm pobl ostwng yn gwbl amlwg, ac mae’r modd y mae bwyd yn rhan o’r hafaliad pryderus yma yn ganolog i’n dadl ni’r prynhawn yma.
“Mae’n hysbys bod maeth mewn deiet yn gostwng wrth i’r ffactorau yma ddod ynghyd, ac wrth i hynny ddigwydd, mae’r tebygolrwydd o afiechyd a salwch yn cynyddu, ynghyd ag effaith negyddol, wrth gwrs, ar gyflyrau iechyd sydd eisoes yn bodoli.
“Does dim modd gwadu bod rhywbeth mawr o’i le ar ein cymdeithas. Rhaid sicrhau nad oes yna rwystr i bobl fwynhau y mwyaf sylfaenol o’u hawliau dynol — yr hawl i fwyd.”
Cafodd cynnig Plaid Cymru, oedd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i “gefnogi’r ymgyrch hawl i fwyd, sy’n arbennig o hanfodol o ystyried yr argyfwng costau byw a wynebir gan gynifer ledled Cymru” ac ar Lywodraeth Cymru i “archwilio pob opsiwn er mwyn sicrhau bod yr hawl i fwyd yn rhan annatod o sut yr ymdrin â thlodi o fewn polisi ar sail trawslywodraethol”, ei basio.