Mae ymchwiliad annibynnol wedi canfod bod Tsieina wedi cyflawni hil-laddiad a throseddau annynol ar Wigwriaid sy’n byw yn y wlad.

Cafodd y corff a oedd yn gyfrifol am yr ymchwiliad, y Tribiwnlys Wigwraidd, ei sefydlu gan fargyfreithiwr blaenllaw o Brydain er mwyn asesu honiadau yn erbyn Tsieina am dorri hawliau dynol y Wigwriaid.

Mae’r Wigwriaid yn grŵp ethnig sydd yn frodorol i dalaith Xinjiang yng ngorllewin y wlad, ac mae llawer ohonyn nhw’n dilyn crefydd Islam.

Yn ôl ymchwilwyr, mae’n debyg bod dros filiwn o bobol – y rhan fwyaf ohonyn nhw’n Wigwriaid – wedi eu cadw mewn ‘gwersylloedd ailaddysgu’ yn ddiweddar.

Mae’r Tribiwnlys Wigwraidd yn cynnwys cyfreithwyr, academyddion a phobol busnes – does ganddyn nhw ddim cefnogaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig na grymoedd i gosbi Tsieina.

Ond mae’r aelodau yn gobeithio bydd cyhoeddi’r dystiolaeth newydd yn sbarduno ymateb yn rhyngwladol i daclo’r camdriniaethau honedig yn erbyn y Wigwriaid.

‘Wedi cyflawni hil-laddiad’

Dywedodd cadeirydd y Tribiwnlys, Syr Geoffrey Nice, bod y corff wedi canfod bod polisïau rheoli genedigaeth a sterileiddio yn cael eu gorfodi er mwyn lleihau poblogaeth y Wigwriaid yng ngorllewin y wlad.

Mae’r polisïau hynny yn uniongyrchol gysylltiedig â’r Arlywydd, Xi Jinping, a haenau uchaf y llywodraeth Tsieineaidd, yn ôl Geoffrey Nice.

“Ar sail tystiolaeth sydd wedi ei glywed yn gyhoeddus, mae’r tribiwnlys yn hollol argyhoeddedig bod Gweriniaeth Pobl Tsieina wedi cyflawni hil-laddiad,” meddai.

“[Maen nhw wedi gwneud hyn] drwy orfodi mesurau i atal genedigaethau gyda bwriad i ddifa cyfran sylweddol o’r Wigwriaid.

Dywedodd fod yr Arlywydd Xi ac uwch swyddogion eraill yn “ysgwyddo’r prif gyfrifoldeb” am yr hyn sydd wedi digwydd yn Xinjiang.

“Gallai’r gormes helaeth hwn ddim fod wedi bodoli pe bai na ddim cynllun yn cael ei awdurdodi ar y lefelau uchaf,” ychwanegodd.

Roedd y Tribiwnlys hefyd yn adrodd bod nifer o bobol wedi dioddef artaith a chael eu treisio.

Ymateb Tsieina

Ni wnaeth y Llysgenhadaeth Tsieineaidd yn Llundain ymateb i geisiadau’r wasg am sylw.

Yn Beijing, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Dramor, Wang Wenbin, fod “y llafur gorfodol a’r hil-laddiad yn Xinjiang, yn sibrydion cwbl ddieflig”.

Fe wnaeth Tŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau basio cyfraith sy’n gwahardd mewnforion o Xinjiang yn dilyn pryderon am lafur gorfodol yn y dalaith.

Cyhuddodd Mr Wang yr Unol Daleithiau o ddefnyddio materion yn ymwneud â Xinjiang i “ledaenu sibrydion dan enw hawliau dynol ac ymgymryd â thwyll gwleidyddol a bwlio economaidd.”