Dyma ddiweddariad dydd Iau (9 Rhagfyr) am gyfraddau Covid-19 holl ardaloedd awdurdod lleol Cymru.

Mae’r ffigurau, ar gyfer y saith diwrnod hyd at Ragfyr 5, yn seiliedig ar nifer y bobl sydd wedi profi’n bositif am Covid-19 naill ai mewn profion labordy  neu brofion llif ochrol cyflym.

Mynegir y gyfradd fel nifer yr achosion newydd fesul 100,000 o bobl.

Mae data ar gyfer y pedwar diwrnod diwethaf (Rhagfyr 6-9) wedi’i eithrio gan ei fod yn anghyflawn ac nid yw’n adlewyrchu gwir nifer yr achosion.

Erbyn hyn, Ynys Môn sydd â’r gyfradd uchaf yng Nghymru (834.8,i fyny o 619.0); ac mae Gwynedd bellach yn uchaf-ond-un (785.3, i lawr o 878.0).

Mae Wrecsam yn drydydd ar y rhestr ar ôl gweld cynnydd o 504.2 i 615.9, ac mae Pen-y-bont ar Ogwr yn bedwerydd, wedi cynnydd o 456.2 i 615.4.

Cyfrifwyd y rhestr gan ddefnyddio data a gyhoeddwyd ar 9 Rhagfyr ar ddangosfwrdd coronafeirws y Llywodraeth.

Y rhestr lawn

O’r chwith i’r dde: enw’r awdurdod lleol; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 5; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Ragfyr 5; cyfradd yr achosion newydd yn y saith diwrnod hyd at Dachwedd 28; nifer (mewn cromfachau) o achosion newydd a gofnodwyd yn y saith diwrnod hyd at Dachwedd 28.

Ynys Môn, 834.8, (588), 619.0, (436)

Gwynedd, 785.3, (983), 878.0, (1099)

Wrecsam, 615.9, (838), 504.2, (686)

Pen-y-bont ar Ogwr, 615.4, (908), 456.2, (673)

Bro Morgannwg, 588.3, (796), 638.6, (864)

Sir Benfro, 582.2, (738), 538.1, (682)

Sir y Fflint, 540.0, (847), 488.4, (766)

Blaenau Gwent, 524.1, (367), 418.5, (293)

Sir Ddinbych, 521.4, (504), 397.3, (384)

Sir Fynwy, 483.4, (460), 443.4, (422)

Torfaen, 478.7, (454), 495.6, (470)

Casnewydd, 471.7, (738), 481.3, (753)

Caerdydd, 468.8, (1731), 475.9, (1757)

Caerffili, 468.8, (852), 440.2, (800)

Powys, 457.8, (609), 448.0, (596)

Abertawe, 457.1, (1127), 391.4, (965)

Castell-nedd Port Talbot, 414.2, (598), 351.1, (507)

Sir Gaerfyrddin, 411.9, (783), 429.3, (816)

Conwy, 411.2, (486), 379.1, (448)

Merthyr Tudful, 407.1, (246), 393.9, (238)

Rhondda Cynon Taf, 390.7, (945), 399.8, (967)

Ceredigion, 289.5, (211), 230.5, (168)