Y brechlyn atgyfnerthu yw’r “anrheg Nadolig orau y gallwch chi ei rhoi i chi eich hun a’ch teulu eleni”, meddai’r Prif Weinidog cyn yr adolygiad Covid diweddaraf.
Dylai pawb fanteisio ar y brechlyn atgyfnerthu i’w diogelu rhag yr amrywiolyn newydd, meddai Mark Drakeford, wrth gyhoeddi na fydd Cymru’n symud o lefel rhybudd sero.
Mae disgwyl y bydd brig y don o achosion Omicron yn cyrraedd Cymru ddiwedd Ionawr, ac mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad oes amser i’w wastraffu wrth ddarparu’r brechlynnau atgyfnerthu.
Mae mwy na miliwn o bobol eisoes wedi cael eu brechlyn atgyfnerthu erbyn hyn.
Yn ystod cynhadledd i’r wasg yn dilyn yr adolygiad 21 diwrnod o fesurau Covid fory (10 Rhagfyr), mae disgwyl i Mark Drakeford ddweud bod angen bod yn barod i weld achosion o’r amrywiolyn yn cynyddu’n sydyn, er mai dim ond llond llaw o achosion sydd wedi’u cadarnhau yng Nghymru hyd yn hyn.
“Mae ymddangosiad yr amrywiolyn Omicron yn ddatblygiad arall sy’n peri pryder i ni yn y pandemig hwn,” meddai Mark Drakeford.
“Rydym yn bryderus am y cyflymder y mae’n lledaenu a’r potensial y gallai heintio niferoedd mawr o bobl.
“Rydym yn rhoi’r pigiadau atgyfnerthu’n gyflymach mewn ymateb i’r amrywiolyn newydd. Rydym yn cynyddu nifer y clinigau ac yn ymestyn yr oriau agor.
“Mae pob dos o’r brechlyn a roddir i rywun yn fuddugoliaeth fach yn erbyn y firws – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn blaenoriaethu cael eich brechlyn neu’ch pigiad atgyfnerthu.
“Dyma’r anrheg Nadolig gorau y gallwch chi ei roi i chi eich hun a’ch teulu eleni.”
Mygydau a phrofion
Bydd Cymru yn aros ar lefel rhybudd sero ar ôl yr adolygiad diweddaraf, ond mae Llywodraeth Cymru’n cynghori’n gryf y dylai pobol wneud prawf llif unffordd cyn mynd allan, boed i barti Nadolig, i ymweld ffrindiau a theulu, i lefydd prysur, neu cyn teithio.
Dylai unrhyw un sy’n cael prawf positif aros adre, trefnu prawf PCR a hunanynysu.
Maen nhw hefyd yn cynghori’n gryf y dylai pobol wisgo gorchuddion wyneb mewn tafarndai a bwytai, pan nad ydyn nhw’n bwyta nac yfed.
Rhaid i bawb gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus dan do eraill, yn unol â’r gyfraith, gan gynnwys mewn sinemâu a theatrau.
Ychwanegodd Mark Drakeford “nad oedd yr un ohonom ni eisiau clywed y newyddion am yr amrywiolyn newydd hwn”.
“Ar ôl bron i ddwy flynedd o bandemig, roeddem wedi gobeithio y byddem yn gallu rhoi’r coronafeirws y tu ôl i ni’r Nadolig hwn,” meddai’r Prif Weinidog.
“Ond rydym wedi wynebu sawl her yn ystod y pandemig. Ac rydym wedi dysgu gwersi bob tro. Nid yw hyn yn golygu ein bod yn mynd yn ôl i’r dechrau.
“Gwnewch bopeth y gallwch i’ch diogelu eich hun a’ch anwyliaid. Dilynwch y cyngor a’r holl fesurau sydd wedi ein cadw’n ddiogel yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Gadewch inni gadw’n ddiogel ac yn iach y Nadolig hwn.”