Bydd llwybr newydd i bererinion rhwng Tŷ Ddewi a Fearna (ferns) yn Swydd Loch Garnan (Wexford) yn cael ei ddatblygu.
Mae’r llwybr wedi’i ysbrydoli gan y cyfeillgarwch rhwng Dewi Sant a Sant Aidan o Fearna, a bydd yn cryfhau’r cysylltiadau hanesyddol rhwng y ddwy wlad Geltaidd.
Mae prosiect Cysylltiadau Hanfodol, sy’n cael ei arwain gan Gyngor Sir Benfro, wedi penodi Ymddiriedolaeth Pererinion Prydain a Pilgrim Paths Ireland i reoli a hyrwyddo’r llwybr newydd.
Llwybr y pererinion fydd prif waddol y prosiect pedair blynedd, Cysylltiadau Hynafol, a fydd yn rhedeg tan 2023.
Nod y prosiect, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, yw dathlu’r straeon sy’n cysylltu Sir Benfro a Swydd Loch Garnan drwy ddefnyddio diwylliant, creadigrwydd ac arloesedd.
Y gobaith yw y bydd y llwybr pererindod newydd yn dod â buddion economaidd i’r ddwy ardal, a hynny drwy dwristiaeth gynaliadwy.
“Pontio dwy ochr y Môr Celtaidd”
Dywedodd Guy Hayward, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain, eu bod nhw am “greu rhywbeth hardd iawn”.
“Rydyn ni yng ngham cynharaf y prosiect hwn, ond gallaf ddweud yn barod ein bod yn mynd i greu rhywbeth hardd iawn gyda’n gilydd sy’n pontio dwy ochr y Môr Celtaidd, ac yn rhywbeth y bydd cymaint yn ei fwynhau ac yn dod o hyd i ystyr drwyddo am genedlaethau i ddod,” meddai Guy Hayward.
Ychwanegodd Arweinydd Ymddiriedolaeth Pererindod Prydain, Dawn Champion, eu bod nhw’n cynnig dwy swydd llawn amser drwy’r prosiect, un yn Iwerddon a llall yn Sir Benfro.
“Un droed o flaen y llall”
Dywedodd Mike Cavanagh, Pennaeth Diwylliant, Hamdden, Twristiaeth a Chofrestru yng Nghyngor Sir Benfro, ei fod yn “falch iawn” o benodi “grŵp mor brofiadol mesur ac angerddol o sefydliadau i gyflawni prosiect arddangos y rhaglen Cysylltiadau Hynafol cyfan – profiad pererindod trawsffiniol newydd”.
“Mae gan bererindod apêl enfawr y dyddiau hyn, a gallwch ei fwynhau p’un a oes gennych ffydd grefyddol ai peidio,” meddai Mike Cavanagh.
“Mae’n ymwneud â mynd allan i fyd natur, rhoi un droed o flaen y llall a chael rhywfaint o amser i feddwl, i anadlu, i wella ac i ddod o hyd i’ch hun – beth bynnag sydd ei angen arnoch chi.
“Mae gan Gymru ac Iwerddon gymaint o gysylltiadau ac mae’r prosiect hwn yn rhoi cyfle gwych i bobl ailddarganfod ein cysylltiadau hynafol a mwy diweddar rhwng y cenhedloedd mawr hyn”.
Cyngor Sir Benfro sy’n arwain prosiect Cysylltiadau Hynafol, gyda Chyngor Swydd Loch Garnan, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Penfro a Visit Wexford.