Mae Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd wedi gosod strategaeth newydd ar gyfer cefnogi Aelodau o’r Senedd yn sgil y pandemig.

Daw hyn wrth i batrymau gweithio Aelodau o’r Senedd newid gyda chyfraniadau rhithwir a sesiynau hybrid yn rhan o’r drefn yn sgil Covid.

Nod y strategaeth yw sicrhau fod ganddynt y gefnogaeth sydd ei hangen i gyflawni eu gwaith, ynghyd â hyrwyddo ymddiriedaeth ymysg y cyhoedd.

Y prif amcan yw dod i benderfyniad mwy syml, ymatebol a chynaliadwy, a cheisio ei gyhoeddi erbyn diwedd Gorffennaf 2025.

Bydd y strategaeth yn canolbwyntio ar ymateb i anghenion busnes newidiol Aelodau o’r Senedd a’r hyn mae’r cyhoedd yn ei ddisgwyl gan eu haelodau.

Mae hefyd yn darparu hyblygrwydd i Aelodau bennu eu blaenoriaethau eu hunain, yn ogystal â chyflwyno model cynaliadwy o gefnogaeth sy’n ystyried anghenion o ran amrywiaeth, yr argyfwng newid yn yr hinsawdd, a chyllid hir dymor yng Nghymru.

Yn ôl y Bwrdd, bydden nhw’n gwybod eu bod nhw wedi llwyddo pan mae Aelodau o’r Senedd yn ymddiried ac yn parchu’r penderfyniadau, ac yn ystyried eu bod nhw’n deg, eglur, ac yn seiliedig ar dystiolaeth.

Maen nhw hefyd am i’r Aelodau gael hyder bod penderfyniadau’r Bwrdd yn eu galluogi i wneud eu gwaith yn effeithiol, a sicrhau bod gan y cyhoedd hyder yn y system.

Heriau ‘gwahanol iawn’

Yn ôl Dr Elizabeth Haywood, Cadeirydd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd, mae’n bwysig ymateb i’r heriau newydd sy’n wynebu Aelodau.

“Mae’r heriau sy’n wynebu’r Senedd a’i haelodau dros y blynyddoedd i ddod yn wahanol iawn i heriau unrhyw un o’i rhagflaenwyr,” meddai.

“Mae agenda diwygio’r Senedd yn cael ei hystyried ar hyn o bryd ac mae’r cyfansoddiad y mae’r Senedd yn gweithredu yn unol ag ef yn parhau i esblygu.

“Ar yr un pryd, mae Aelodau wedi bod yn ymgymryd â’u dyletswyddau drwy’r amgylchiadau heriol sydd wedi codi o ganlyniad i bandemig iechyd byd-eang.

“Mae hyn wedi ein harwain i adolygu pa fath o drefniadau gwaith posib fydd gan Aelodau o’r Senedd yn y dyfodol.

“Ar ben hyn, mae cymunedau yng Nghymru yn teimlo effaith newid hinsawdd ac mae cyfleoedd newydd yn dod i’r amlwg i newid ein ffordd o fyw.

“Mae’n amlwg bod gan bawb rôl i’w chwarae o ran lleihau ein hôl troed carbon.

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Bwrdd Taliadau Annibynnol wedi ystyried yr heriau hyn, a pha ddylanwad y gallant ei gael ar ein rhaglen waith strategol. Mae’r ddogfen hon yn nodi ein hymateb a’n hamcanion strategol ar gyfer 2021-26, a fydd yn parhau hyd at etholiad nesaf y Senedd.”

Cefnogaeth dros weithio o bell

Yr wythnos hon fe alwodd Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru a gafodd ei hethol fis Mai eleni, am barhau â chyfarfodydd rhithwir yn y Senedd.

Mae hi am weld gweithio o bell hyd yn oed ar ôl Covid er mwyn gwneud gwleidyddiaeth yn hygyrch i bawb.

Dywedodd yr aelod dros Ganol De Cymru bod gweithio hybrid yn ystod y pandemig yn golygu y gallai gydbwyso anghenion ei swydd â’i phlentyn dwy oed.

“Yn sicr, mae rhai pobl sy’n awyddus iawn i weld pob un o’r 60 aelod yn ôl a phethau i ddychwelyd i’r arfer, ond byddwn yn dadlau nad oedd normal yn gweithio i’r rhan fwyaf o bobol, ac nad oedd normal yn gweithio o ran cael mwy o gynrychiolaeth ac amrywiaeth yn y siambr.”

Ychwanegodd fod angen nifer o ddiwygiadau: “Byddwn yn sicrhau bod crèche yn y Senedd, a byddwn yn edrych ar fodelau gwahanol o ran hyblygrwydd a sut i dalu am absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth hefyd.”

Galwadau am addasu

Mae Bethan Sayed, cyn-Aelod o’r Senedd dros Blaid Cymru, wedi dweud bod y pandemig nawr yn gyfle i addasu’r modd mae gwleidyddion y Bae yn gweithio, gan gynnwys y syniad o rannu swydd.

Mae galwadau dros addasu ffordd o weithio Aelodau o’r Senedd wedi cael eu lleisio ers rhai blynyddoedd, gyda’r cyn-Weinidog Addysg, Kirsty Williams yn galw am ddiwygiadau.

Yn 2001, hi oedd yr aelod cyntaf o’r Senedd i gael babi tra yn ei swydd, a chan nad oedd y bleidlais proxy yn bodoli fe ddychwelodd i’r gwaith pan oedd ei merch yn dri mis oed.

Dan gytundeb cydweithio Llafur a Phalid Cymru mae addewid i wneud y Senedd yn fwy cynhwysol, yn ogystal â chynyddu ei haelodaeth o 60 i hyd at 90 aelod.

Mae Senedd Cymru wedi cytuno i sefydlu pwyllgor fydd yn edrych ar y posibilrwydd o ddiwygio’r drefn dan gadeiryddiaeth yr AoS Llafur dros Ogwr, Huw Irranca-Davies.

Y nod yw edrych ar gynyddu nifer yr aelodau, yn ogystal â chreu Senedd sy’n fwy cynhwysol a chynrychioladwy.

Bethan Sayed eisiau troi’r Senedd “yn fwy cynhwysol ac atyniadol”

Jacob Morris

“Mae rhannu swydd rhwng dau aelod yn cynnig mwy i etholwyr gyda phobl yn cael ‘two for the price of one’ fel petai, drwy ethol dau gymeriad gwahanol”