Mae Boris Johnson dan bwysau cynyddol wrth i honiadau newydd ddod i’r amlwg am y parti Nadolig honedig yn Rhif 10 y llynedd.
Yn ôl adroddiadau roedd cyfarwyddwr cyfathrebu Downing Street wedi gwneud araith yn y digwyddiad yr honnir oedd wedi digwydd yn Rhif 10 ar 18 Rhagfyr 2020 pan oedd cyfyngiadau Covid llym mewn grym.
Roedd rhaglen ITV News wedi adrodd neithiwr (9 Rhagfyr) bod Jack Doyle, a oedd yn ddirprwy gyfarwyddwr cyfathrebu Rhif 10 ar y pryd, wedi annerch tua 50 o bobl yn y parti Nadolig honedig.
Mae’n debyg bod Jack Doyle wedi diolch i swyddfa’r wasg am eu gwaith ac wedi rhoi gwobrau i nodi ymdrechion y tîm.
Mae Downing Street wedi gwrthod gwneud sylwadau pellach gan ddweud bod adolygiad i geisio canfod y ffeithiau ar y gweill.
Mae arweinydd y Blaid Lafur Syr Keir Starmer wedi bod yn feirniadol iawn o’r digwyddiad honedig gan drydan nad yw Boris Johnson “yn addas i arwain ein gwlad.”
Dywedodd Keir Starmer wrth The Telegraph: “Rwy’n hyderus y byddwn yn ennill yr etholiad cyffredinol nesaf, boed hynny yn 2023 neu 2024.
5rftde“Felly’r cwestiwn – a dyma’r cwestiwn sydd yn ganolog yn fy marn i nawr – i’r Cabinet, i weinidogion ac i bob Aelod Seneddol Torïaidd, a dweud y gwir, a ydyn nhw’n barod i ddioddef dwy flynedd o gael eu diraddio ac amddiffyn yr hyn na ellir ei amddiffyn a dwyn anfri pellach ar eu hunain a’u plaid?
“Achos nid yw hyn yn mynd i newid – nid yw’n addas i redeg y wlad, dyw pethau ddim yn mynd i newid. Neu ydyn nhw yn mynd i wneud rhywbeth am hyn?”
Yn y cyfamser mae Boris Johnson yn wynebu gwrthryfel pellach ynglŷn â rheolau Covid newydd i fynd i’r afael a lledaeniad yr amrywiolyn newydd Omicron, gydag adroddiadau’n awgrymu y gallai mwy na 30 o Aelodau Seneddol bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth wythnos nesaf.