Mae dau heddwas aeth i helpu pan wnaeth ychen-yr-afon ymosod ar ddau ffermwr yn Sir Fynwy wedi cael eu gwobrwyo am eu dewrder.

Derbyniodd PC Mark Burbidge a PC Owain Smallwood gydnabyddiaeth yng ngwobrau dewrder cenedlaethol Ffederasiwn yr Heddlu 2021 am eu gwaith gyda Heddlu Gwent y diwrnod hwnnw.

Bu farw tad a mab, Ralph Jump, 57, a Peter, 19, ar fferm yng Ngwehelog, ger Brynbuga, yn sgil yr ymosodiad gan yr ychen.

Cafodd chwaer Peter, Isabel Jump, 22, anaf difrifol i’w choes yn y digwyddiad hefyd, ond goroesodd.

Pan gafodd yr heddlu eu galw, fe wnaethon nhw geisio rheoli’r ychen drwy ddefnyddio polion metel yn unig, nes y gwnaeth heddlu arfog gyrraedd.

Bryd hynny, hyd yn oed, doedd arfau arferol yr heddlu ddim yn ddigon pwerus i ladd yr ychen.

Bu’n rhaid i’r heddlu ffurfio llinell warchodol fel bod modd i’r parafeddygon gyrraedd Ralph a Peter Jump.

Bu farw Ralph Jump yn y fan a’r lle, a chafodd Peter Jump ei gludo i’r ysbyty mewn ambiwlans awyr ond bu farw ar ôl cael llawdriniaeth.

Cafodd yr ychen ei ddifa yn y diwedd.

“Clod i heddlua”

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly, ei bod hi’n “falch iawn o’r ymroddiad mae’r swyddogion hyn wedi’u dangos”.

“Maen nhw’n glod i heddlua Gwent a’r Deyrnas Unedig.”

Roedd wyth gwobr ranbarthol yn cael eu rhoi fel rhan o’r gwobrau dewrder, a gafodd eu cynnal ddoe (9 Rhagfyr).

Enillwyr cenedlaethol y gwobrau oedd y cwnstabliaid Daniel Broderick, Elizabeth Brook, Anthony Dutton a Richard Knowles o Heddlu Gorllewin Swydd Efrog, a wnaeth lwyddo i ddiarfogi dau ymosodwr wrth iddyn nhw geisio torri pen gweithiwr ffatri yn Huddersfield fis Ionawr llynedd.

Ychen-yr-afon

Tad a mab wedi’u lladd gan ychen-yr-afon mewn ymosodiad ar fferm

“Doeddwn i ddim yn gallu ei glywed ac roeddwn i’n gwybod ei fod wedi marw”