Mae o leiaf 53 o bobol wedi marw ar ôl i lori’n smyglo 200 o ffoaduriaid droi drosodd a tharo pont ddur yn ne Mecsico.
Anafwyd 54 o bobol yn y digwyddiad hefyd, meddai’r awdurdodau.
Dyma’r nifer uchaf o ffoaduriaid i farw mewn un diwrnod ym Mecsico ers y gyflafan yn 2010 pan wnaeth cartel cyffuriau’r Zetas lofruddio 72 person yn nhalaith Tamaulipas yng ngogledd y wlad.
Cafodd y ffoaduriaid gyda’r anafiadau gwaethaf eu cario gerfydd eu coesau a’u breichiau, a’u gosod ar gynfasau plastig ar ochr y ffordd.
Daeth ambiwlansys, ceir a thryciau i gludo pobol ag anafiadau i ysbytai.
Yn nes ymlaen, cafodd y meirw eu gosod ar resi o gynfasau gwyn, ar ochr y ffordd.
Dywedodd gweithwyr fu’n helpu gyda’r ymdrech achub fod mwy o ffoaduriaid ar y lori, ond eu bod nhw wedi dianc gan eu bod nhw yn ofni cael eu dal gan yr asiantaethau mewnfudo.
“Ddim yn anarferol”
Yn ôl prif swyddog hawliau dynol Guatamala, Jordan Rodas, gallai tua 200 o ffoaduriaid, a oedd yn dod o Ganolbarth America yn ôl yr adroddiadau, fod wedi’u gwasgu yn y lori.
Dydi hi ddim yn anarferol i gymaint o bobol gael eu cludo mewn lorïau yn ystod ymgyrchoedd smyglo ym Mecsico.
Gallai’r pwysau oedd yn y lori, ynghyd â chyflymder y lori a throad yn y ffordd, fod wedi achosi i’r lori golli’i balans, meddai’r awdurdodau.
Dywedodd Luis Manuel Moreno, pennaeth swyddfa diogelwch sifil talaith Chiapas, fod gan tua 21 o’r rhai oedd wedi eu hanafu anafiadau difrifol, a’u bod nhw wedi cael eu cludo i ysbytai.
Er nad oes cadarnhad hyd yma o genedligrwydd y ffoaduriaid, dywedodd yr awdurodau’n lleol fod y rhan fwyaf o’r bobol ar y lori’n dod o Guatemala neu Honduras.
Dywedodd Arlywydd Guatemala, Alejandro Giammattei, ar Twitter: “Mae hi’n ddrwg iawn gen i am y drasiedi yn nhalaith Chiapas, a dw i’n datgan fy mod i’n cydsefyll â theuluoedd y dioddefwyr, a byddwn yn cynnig yr holl gymorth sydd ei hangen arnyn nhw, gan gynnwys eu dychwelyd i’w mamwlad.”