Mae Cyngor Sir Benfro wedi gwario dros £100,000 ar gyngor cyfreithiol a ffioedd ymgynghorwyr mewn perthynas ag ymadawiad cyn-Brif Weithredwr.

Fe gafodd Ian Westley £95,000 i roi terfyn ar ei gytundeb cyflogaeth, ond mae’r arian gafodd ei wario yn ymwneud â’i ymadawiad ar ben hynny.

Mewn cyfarfod llawn o Gyngor Sir Benfro, fe ofynnodd y Cynghorydd Jamie Adams am “fanylion gwariant allanol a mewnol a wnaed mewn ymagis i lanhau’r llanast wnaed oherwydd penderfyniad anghyfreithlon yr arweinydd i roi £95,000 i Ian Westley ddod a’i gytundeb i ben”.

Fe glywodd y cyngor nad oedd hi’n bosib darparu’r ffigwr ar gyfer y gwariant ar gostau staff mewnol, ond hyd yma roedd £27,000 wedi ei dalu i gwmni ymgynghorol Solace ar gyfer adolygiad mewnol ac argymhellion.

Hefyd roedd £92,931 wedi ei wario ar wasanaethau cyfreithiol allanol, a bod y cyngor yn rhagweld mwy o wariant, gan ychwanegu at y cyfanswm hyd yma – sef £119,931.