Mae gwaith 40 o artistiaid o bob cwr o Gymru i’w weld yn y Galeri yng Nghaernarfon ar hyn o bryd.

Cafodd y darnau creadigol sy’n rhan o sioe Agored 2021 eu dewis a’u dethol, a’u gwobrwyo, gan banel arbenigol, ac mae’r artistiaid dan sylw yn cynnwys enwau adnabyddus megis Ruth Jên, Manon Awst, a Rhys Aneurin.

Mae’r arddangosfa flynyddol yn gyfle i unrhyw un – boed yn artist proffesiynol, myfyriwr neu sy’n creu celf o ran diddordeb – i ymgeisio er mwyn bod yn rhan ohoni.

Cafodd y gwaith ei ddewis eleni gan Alan Whitfield, Darren Hughes, Rebecca Hardy-Griffith a Naomi Saunders, ac yn eu mysg mae lluniau’r ffotograffydd Carwyn Rhys Jones, sy’n dod o Gaernarfon yn wreiddiol ond wedi ymgartrefu yn Wrecsam bellach.

Mae dau o’i luniau o brotest Bywydau Du o Bwys yn Wrecsam yn rhan o’r arddangosfa, a dywedodd ei fod yn awyddus i gefnogi’r achos yng Nghymru, a dogfennu’r digwyddiad er mwyn cofnodi ymgyrch “bwysig a hanesyddol”.

“Ymgyrch bwysig a hanesyddol”

“Roedd ymgyrch Black Lives Matter yn digwydd ar yr adeg yna, ac wedyn roeddwn i’n meddwl bod o’n bwysig ofnadwy cefnogi hwnna gan fod o’n ymgyrch mor bwysig a hanesyddol,” meddai Carwyn Rhys Jones wrth golwg360.

“Fe wnes i jyst tynnu lluniau roeddwn i’n meddwl fysa’n cynrychioli be oedd yn mynd ymlaen, a dw i’n meddwl bod y lluniau reit gryf, y rhai sydd gen i yn [Galeri] – ‘End racism now’.

“Dw i’n adnabod yr hogan fach yn y llun, o gefndir Portugese mae hi, roedd hi efo sein yn dweud ‘Love Every Colour’… ‘Caru Pob Lliw’, which dylsa ni.

“Roeddwn i’n meddwl bod y neges reit gryf, fod y genhedlaeth ifanc gymaint tu ôl iddo fo, achos yn amlwg roedd be oedd wedi digwydd yn America yn ofnadwy, ond ei fod o’n gweithio, gobeithio, er gorau i’r genhedlaeth nesaf.

“Yn amlwg, roeddwn i’n cefnogi’r ymgyrch hefyd.”

Mae ei waith ar yr ymgyrch Black Lives Matter wedi derbyn sylw gan Sain Ffagan ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd hefyd.

Bywydau Du o Bwys, Wrecsam gan Carwyn Rhys Jones

Yn ôl Carwyn Rhys Jones, mae hi’n “ofnadwy o bwysig” cofnodi cyfnodau mewn hanes, a hynny er mwyn y genhedlaeth nesaf.

“Dyna roeddwn i’n ei feddwl wrth ddogfennu’r ymgyrch yma, roeddwn i’n meddwl bod hyn reit hanesyddol… dw i erioed wedi gweld, yn ein hamser ni, gymaint o bobol yn dod at ei gilydd.

“Yn amlwg roedd o’n ofnadwy o beth i ddigwydd, ond dw i wir yn gobeithio am rywbeth positif i ddod allan [ohono] i bobol o gefndir gwahanol.”

“Hanfodol”

Mae Carwyn Rhys Jones yn gweithio yn gymhorthydd mewn ysgol Gymraeg yn Wrecsam, ac yn gwneud gwaith llawrydd fel ffotograffydd, gwneuthurwr ffilmiau, a ffilmio gyda drôns.

Dechreuodd dynnu lluniau pan oedd yn ddeunaw, a chofnodi bywyd a gwaith criw o chwarelwyr.

“Y prosiect cyntaf wnes i efo’r chwarelwyr, mae hwnna reit bwysig i’w ddogfennu – allan o’r pum chwarelwr gafodd eu dogfennu, mae dau wedi marw,” meddai.

Cafodd y gwaith hwnnw ei arddangos yn Llanberis ac yn Abertawe, a bellach mae i’w weld yn Sir Benfro.

“Mae’n swydd i ni fel ffotograffwyr i ddal y lluniau yma’n iawn, i’r genhedlaeth nesaf wybod a meddwl ‘Be oedd yn mynd ymlaen yn fan yna?’”

Yn ystod y pandemig, mae Carwyn Jones wedi bod wrthi’n dogfennu gweithwyr rheng flaen hefyd.

“Ella mewn deng mlynedd fydd pobol yn edrych ar hwnna ac yn meddwl ‘Pam bod heddlu, ambiwlans, pawb, yn gwisgo mwgwd?’

“Mae o’n hanfodol, mae o’n rhan o’r swydd i ddogfennu i’r genhedlaeth nesaf.”

Ar hyn o bryd, mae Carwyn Rhys Jones wrthi’n gweithio ar brosiect gyda Heddlu Gogledd Cymru, a’r diwylliannau a’r cymunedau gwahanol yn Wrecsam.

Mae’r gwaith yn edrych ar “be ydi perthynas yr heddlu efo’r cymunedau gwahanol yma, a sut maen nhw’n gallu dod at ei gilydd i gael y gorau i’r dref”, meddai.

“Dw i wrth fy modd yn gwneud prosiectau mewn cymunedau, dw i’n dod ar draws gymaint o bobol newydd.”