Mae’r cyngor swyddogol sy’n annog Albanwyr i ohirio partis Dolig yn “glec a hanner” i’r diwydiant lletygarwch, yn ôl y Scottish Hospitality Group (SHG).

Oherwydd ofnau bod yr amrywiolyn Omicron yn lledaenu yn gynt nag amrywiolion blaenorol o covid, mae corff Iechyd Cyhoeddus yr Alban yn annog pobol i ohirio partïon Nadolig er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y feirws.

Ond mae llefarydd y corff sy’n cynrychioli’r diwydiant lletygarwch yn yr Alban, yn dweud y bydd y cyngor newydd yn niweidio busnes tafarnau a gwestai.

Fe ddywedodd Stephen Montgomery o’r SHG wrth raglen Good Morning Scotland y BBC fod y diwydiant lletygarwch “wir angen i’r Dolig hwn fod yn un da” yn dilyn yr un siomedig y llynedd.

Yn dilyn y cyhoeddiad gan Iechyd Cyhoeddus yr Alban nos Iau, dywedodd fod pobol eisoes yn canslo partis mewn tafarnau a gwestai, a’i ofn yw y byddan nhw yn mynychu partis yn nhai ei gilydd, lle nad oes mesurau i ddiogelu rhag lledaenu covid, meddai.

“Rydym yn gwybod bod [tafarnau a gwestai] yn llefydd diogel i fod ynddyn nhw,” meddai Stephen Montgomery.

“Rydym ni wedi gwario miliynau dros yr 20 mis diwethaf, boed hynny ar awyru, staff ychwanegol i gadw pobol yn ddiogel, neu olchi byrddau ac ati.

“Mae hyn yn glec a hanner i’r [diwydiant] lletygarwch.”

Does dim disgwyl i Mark Drakeford gynghori gohirio partis Dolig yma yng Nghymru, ond mae am weld pobol sy’n mynychu tafarnau yn gwisgo mygydau – pan nad ydyn nhw yn yfed a bwyta.