Car Porsche
Bydd Prif Weithredwr newydd Cyngor Sir Benfro yn derbyn cyflog o £130,000, sef £70,000 yn is na’r un blaenorol.

Mae’r Cyngor wedi penodi Ian Westley i lenwi esgidiau Bryn Parry Jones wnaeth adael y swydd ym mis Hydref llynedd.

Roedd Ian Westley eisoes yn gweithio i’r awdurdod yn barod fel Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig.

Bryn Parry Jones oedd yn derbyn y cyflog uchaf o unrhyw un o’r 22 Prif Weithredwr Cyngor sir yng Nghymru, ac yntau ar £200,000 y flwyddyn.

Cytunodd y cyngor sir dalu £277,000 o becyn diswyddo iddo.

Yn dilyn ymchwiliad roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi bod taliadau arian parod gan yr awdurdod i Bryn Parry Jones yn lle cyfrannu tuag at ei bensiwn yn “anghyfreithlon”.

Fe gafodd y cyngor sir ei feirniadu hefyd am dalu i rentu car Porsche at ddefnydd Bryn Parry Jones.

Ar hyn o bryd mae’r cyngor yn trafod newid rheolau lesu ceir i’w prif swyddogion gyda’r pwyslais ar geir sy’n well i’r amgylchedd. Ni fydd cais i lesu Porsche yn cael ei ystyried yn y dyfodol.