Mae 29 o aelodau o griw gwerthu cyffuriau yng ngogledd Cymru wedi eu dedfrydu gan farnwr.

Cafodd pennaeth y criw, Paul Williams, 40 o Fangor ei garcharu am 19 mlynedd ddydd Mercher, gyda gweddill y criw yn cael eu dedfrydu ddoe a heddiw.

Dywedodd y Barnwr, Niclas Parry, ei fod yn “sgandal” bod Paul Williams wedi gallu gwneud 295  o alwadau ffôn mewn diwrnod tra yn y carchar. Bydd y Swyddfa Gartref yn gorfod esbonio sut y bu i hynny ddigwydd.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon bod y criw wedi dod a heroin, cocên a chanabis i ogledd Cymru o ogledd Lloegr ac yna ei ddosbarthu i rwydwaith eang o werthwyr lleol

Nid yw pob diffynnydd wedi eu carcharu. Derbyniodd rhai amser yn y carchar wedi ei ohirio a gorchmynion cymunedol.