Carwyn Jones
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd “camau cadarnhaol” eleni wrth weithredu ei pholisi iaith yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones, wrth iddo gyhoeddi adroddiad blynyddol heddiw.
Yn ôl yr adroddiad roedd 21.8% o bobl wedi dweud mewn arolwg cenedlaethol eu bod yn medru siarad, dysgu ac ysgrifennu Cymraeg yn 2014, cynnydd bychan o’i gymharu â 21.3% yn 2013.
Un o’r prif gamau sydd yn cael eu crybwyll yn Adroddiad Blynyddol 2014-15 Strategaeth y Gymraeg, Iaith Fyw: Iaith Byw y llywodraeth yw’r datganiad polisi Bwrw Mlaen a gafodd ei gyhoeddi ym mis Awst llynedd.
Mae’r adroddiad hefyd yn diweddaru’r camau mae’r llywodraeth wedi’u cymryd i gryfhau’r Gymraeg mewn chwe maes strategol: ‘Y teulu’, ‘Plant a phobl ifanc’, ‘Y gymuned’, Y gweithle’, ‘Gwasanaethau Cymraeg’, ac ‘Y seilwaith’.
Ffigyrau
Yn ôl awduron yr adroddiad roedd 6.8% o blant pump oed yng Nghymru yn siarad Cymraeg yn rhugl gartref yn 2014, cynnydd bychan o’r 6.4% yn 2013 ond ychydig yn is na’r 7% yn 2012.
Yn ôl arolwg blynyddol o’r boblogaeth roedd 21.8% o bobl yn medru siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn 2014, cynnydd o 0.5% o’r flwyddyn gynt – ond mae ffigyrau’r arolwg hwnnw’n tueddu i fod yn sylweddol uwch na ffigyrau tebyg o’r Cyfrifiad.
Bu cynnydd hefyd yn y niferoedd oedd yn cymryd rhan yng ngweithgareddau mudiadau fel yr Urdd, Ffermwyr Ifanc, yr Eisteddfod, Mentrau Iaith a Merched y Wawr.
Mwy o Saesneg ymysg staff y Llywodraeth
Ond ymysg staff Llywodraeth Cymru roedd cwymp o 8.2% i 5.9% yn y canran o siaradwyr Cymraeg rhugl oedd yn defnyddio’r iaith o hyd yn y gweithle rhwng 2013 a 2014, gyda chynnydd yn y canran oedd yn siarad mwy o Saesneg na Chymraeg.
Roedd yr adroddiad hefyd yn dangos bod ffigyrau gwylio S4C a gwrandawyr Radio Cymru yn disgyn yn y blynyddoedd diwethaf, ac roedd gwerthiant papurau bro a’r nifer o lyfrau Cymraeg gafodd eu gwerthu ar i lawr hefyd.
Ond roedd mwy o ddefnydd o’r Gymraeg ar-lein, gyda gwefan golwg360 yn gweld cynnydd yn nifer yr ymweliadau i’r wefan.
‘Creu tir ffrwythlon’
Yn ôl Carwyn Jones mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud “cychwyn cadarn” dros y flwyddyn ddiwethaf ar weithredu amcanion Bwrw Mlaen, gan fuddsoddiad gwerth £1.6m ar gyfer cryfhau’r Gymraeg mewn perthynas â’r economi a chymuned.
Yn ogystal â hynny mae’r adroddiad yn cydnabod y Safonau Iaith fydd yn cael eu cyflwyno nes ymlaen eleni, y Bil Cynllunio yn y Senedd, ac ymgyrchoedd fel ‘Y Pethau Bychain’ sy’n annog siaradwyr yr iaith i wneud pum peth yn Gymraeg bob dydd.
Mae’r adroddiad hefyd yn trafod y datblygiadau sydd wedi digwydd yn y chwe ‘maes strategol’ dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gyflwyno ffigyrau ynglŷn â’r defnydd o’r Gymraeg a gwasanaethau Cymraeg yn y meysydd hynny.
“Bwriad hyn oll yw gosod isadeiledd a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg at y dyfodol,” meddai Carwyn Jones yn ei ragair i’r adroddiad.
“Ond mae angen edrych y tu hwnt i waith y Llywodraeth a’n partneriaid yn unig. Hyd yn oed os nad yw pobl yn siarad Cymraeg mae angen sicrhau bod pawb yn ymwybodol ohoni ac yn ei pharchu. Mae hynny’n costio dim, ond bydd yn creu tir ffrwythlon i’r iaith ehangu.”
Cymdeithas yr Iaith yn beirniadu
Meddai Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Er gwaetha’r cynnydd mewn rhai meysydd, gellir cyplysu’r cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio gwasanaethau Cymraeg gyda diffyg y llywodraeth i weithredu eu pwerau o fewn Mesur Iaith 2011 – methiant i gyflwyno Safonau Iaith o fewn cyfnod ystyrlon.
“Rhaid cofio mai prif bwrpas cyflwyno’r safonau yw cysoni gwasanaethau a chodi disgwyliadau a hyder y cyhoedd wrth ddefnyddio’r gwasanaethau hynny. Mae’r cwymp yn nefnydd y Gymraeg o fewn y Llywodraeth ei hun, a’r lleihad yn nefnydd gwasanaethau fel Galw Iechyd Cymru, yn arswydus ond nid yn anorfod – mae angen weithredu’r holl bwerau o fewn y mesur iaith ar frys os am weld cynnydd.
“Rhaid cwestiynu pwyslais y Llywodraeth ar ‘gamau cadarnhaol’. Mae’r adroddiad yma yn dangos eu bod yn dal i oedi ar argymhellion pwysicaf arbenigwyr yn dilyn canlyniadau’r cyfrifiad – argymhelliad adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar yr Iaith Gymraeg a Datblygu Economaidd i osod amod iaith ar bob grant i fusnesau; ac argymhellion brys adroddiad yr Athro Sioned Davies i ddileu’r syniad o ddysgu Cymraeg fel ‘ail iaith’ er enghraifft.
“Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gosod her i’r Llywodraeth fydd yn arwain Cymru o 2016 ymlaen i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, i atal yr allfudo a galluogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd. Er mwyn cyrraedd y tair nod yna mae pecyn o argymhellion – pethau i’w gwneud yn syth a phethau fydd yn cymryd amser. Mae her ychwanegol i Lywodraeth presennol Cymru i ddangos fod ganddyn nhw ewyllys i roi pethau ar waith nawr.”
Mae modd darllen yr adroddiad llawn gan Lywodraeth Cymru drwy ddilyn y linc.