Guto Dafydd
Heno yng nghanolfan ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy mi fydd Prifardd yn lansio ei nofel Stad drwy restru 23 rheswm dros beidio â mynd ati i sgwennu nofel.
Daeth Guto Dafydd yn agos i ennill y Fedel Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli llynedd gyda’r nofel ramantus sydd wedi ei selio ar Downton Abbey a ffilmiau ysgafn Hugh Grant.
Meddai Guto Dafydd: “Ro’n i eisiau trio rhywbeth gwahanol i lansiad arferol.
“Mae ‘23 Rheswm Dros Beidio â Sgwennu Nofel’ yn gyfle i mi rantio, gyda fy nhafod yn fy moch, wrth gwrs, am y pethau mwy rhwystredig am y profiad o greu Stad, ac esbonio ychydig ar y syniadau y tu cefn iddi.
“Maen nhw’n dweud na ddylech chi weld sut mae cyfreithiau na selsig yn cael eu gwneud, ond gobeithio bydd yr olwg ddireidus yma ar y broses o greu nofel yn codi ambell wên.”
Tipyn o stad
Mae Stad yn seiliedig ar fywyd teulu Cefn Mathedrig, yr unig stad yn Llŷn lle mae uchelwyr yn dal yn byw ac yn dal yn siarad Cymraeg.
“Diddanu oedd fy mhrif nod wrth greu’r nofel,” meddai’r awdur.
“Roedd arna i eisiau ail-greu ysblander a phrysurdeb Downton Abbey, a dweud stori serch afaelgar ac ysgafn fel ffilmiau Hugh Grant.
“Ro’n i yn awyddus i ofyn cwestiynau ynghylch ein perthynas ni fel Cymry â’n bröydd, ein hunaniaeth a’n treftadaeth – pethau weithiau sy’n teimlo fel dyletswydd a chyfrifoldeb o’r oes o’r blaen.”
Caiff ‘23 Rheswm Dros Beidio â Sgwennu Nofel’ ei berfformio heno yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy am 7.30yh, ac yna yng ngardd siop lyfrau Palas Print, Caernarfon am un brynhawn yfory yn rhan o Gŵyl Arall.
Bydd yn y Lolfa Lên ar ddydd Iau’r Eisteddfod Genedlaethol am 1.45yh.