Mae dros 1,000 o dai gwag yng Nghaerdydd yn “difetha cymunedau” ac yn gwaethygu’r argyfwng tai yn y ddinas, yn ôl cynghorydd yn y brifddinas.

Ar hyn o bryd, mae dros 1,355 o dai sector breifat Caerdydd yn wag ers mwy na chwe mis, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Mae’r ffigwr hwnnw yn debyg i’r nifer o dai sydd wedi eu gosod i bobol ar y rhestr aros am dai cymdeithasol y llynedd, ac mae hynny wedi codi galwadau i ddod â’r tai hyn yn ôl i ddefnydd.

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi cynllun gweithredu sy’n annog, ac mewn rhai achosion yn gorfodi landlordiaid i beidio â gadael eu cartrefi yn wag yn y tymor hir.

‘Difetha cymunedau’

Yn ôl y Cynghorydd Lynda Thorne, yr aelod cabinet ar gyfer tai a chymunedau, mae angen polisïau sy’n sicrhau bod eiddo gwag hirdymor yn cael eu defnyddio fel cartrefi.

“Mae sawl un yn cytuno bod cartrefi gwag hirdymor yn adnoddau sy’n cael eu gwastraffu,” meddai.

“Mae hwn yn fater sydd wedi cael ei amlygu mwy gan y pandemig a’r argyfwng tai.

“Gall eiddo gwag ddenu sgwatio, fandaliaeth, camddefnydd cyffuriau, ymddygiad gwrthgymdeithasol, llosgi bwriadol a llygod. Gallan nhw achosi difrod i gartrefi cyfagos ac os bydd eiddo’n parhau’n wag, mae’r dirywiad anochel yn cael effaith ar gymdogion a’n difetha cymunedau.

“Er bod Caerdydd wedi gweld gostyngiad mewn anheddau gwag hirdymor – i lawr o 1,568 yn 2018/19 i 1,355 nawr – mae’n amlwg bod angen ffocws arnom ni a rhai polisïau newydd a all helpu i gael yr eiddo hyn yn ôl i ddefnydd, drwy gartrefu pobol a theuluoedd.”

Polisïau newydd

Yng Nghaerdydd, mae perchnogion cartrefi sy’n wag am fwy na blwyddyn yn gorfod talu premiwm o 150% ar y dreth cyngor,

Mae’r arian hynny sy’n cael ei godi wedyn yn cael ei wario’n uniongyrchol gan yr adran dai i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.

O’r 1,355 tŷ gwag hirdymor, mae 340 ohonyn nhw wedi bod yn wag ers dros ddwy flynedd, 132 ers mwy na pum mlynedd, a 53 ers dros ddegawd.

Y Rhath yw’r ardal sydd â’r nifer fwyaf o eiddo gwag, gyda 166 yn ôl y ffigyrau diweddaraf, tra bod y canolbwynt myfyrwyr, Cathays, â 140.

Mae’r Cyngor yn gwneud sawl peth i geisio annog perchnogion i ddefnyddio cartrefi gwag, gan gynnwys cynnig benthyciadau ar gyfer atgyweirio, cynllun gosod tai a chynnig opsiwn i brynu tai.

Os nad yw’r cymhellion hyn yn gweithio, mae ganddyn nhw sawl opsiwn arall fel gorchmynion prynu gorfodol, lle mae’n rhaid i’r perchennog werthu ei eiddo i’r Cyngor.

“Gan gydweithio gyda Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi datblygu polisi a chynllun gweithredu cartrefi gwag sy’n amlinellu’r cymorth y gellir ei gynnig i berchnogion i’w hannog i ddod ag eiddo, sydd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis, yn ôl i ddefnydd,” meddai’r Cynghorydd Lynda Thorne.

“Mae’r polisi hwn hefyd yn nodi’r dulliau gorfodol sydd ar gael lle mae cyngor a chymorth yn methu.

“Rydyn ni am feithrin cysylltiadau da gyda pherchnogion a’u hannog i ddychwelyd eu heiddo i’w defnyddio, gan roi’r holl gyngor a chymorth sydd eu hangen arnyn nhw i’w helpu i wneud hynny.

“Gan ddod â’r mathau hyn o eiddo yn ôl i ddefnydd, mae potensial i wneud cynnydd sylweddol wrth i ni geisio darparu mwy o dai fforddiadwy ar draws y ddinas.”