Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, wedi gwrthod wfftio’r posibilrwydd y bydd cyfyngiadau llymach yn cael eu cyflwyno cyn y Nadolig, wrth iddo gyhoeddi’r farwolaeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig o ganlyniad i’r amrywiolyn newydd Omicron.

Dywedodd yn ystod ymweliad â chlinig brechu yng ngorllewin Llundain fod o leiaf un person wedi marw o ganlyniad i Omicron, gan gydnabod fod y feirws yn lledu’n gyflym unwaith eto.

Daw ei sylwadau ar ôl i Sajid Javid, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, ddweud y byddai’r llywodraeth “yn taflu popeth” at y rhaglen frechu i sicrhau bod pobol yn cael dos atgyfnerthu.

Mae Boris Johnson yn mynnu o hyd mai’r nod yw brechu pob oedolyn yn Lloegr cyn diwedd y flwyddyn, ond fe fu peth dryswch o ran y ffordd y cafodd ei eirio.

“Trwy gydol y pandemig, dw i wedi sicrhau fy mod yn pwysleisio wrth y cyhoedd fod rhaid i ni wylio lle mae’r pandemig yn mynd, a’n bod ni’n cymryd pa bynnag gamau sy’n angenrheidiol er mwyn gwarchod iechyd y cyhoedd,” meddai, gan ychwanegu mai ‘Cynllun B’ yw’r “dull cywir” i’w gymryd.

Ychwanegodd y byddai’n rhaid brechu’n gyflymach nag erioed o’r blaen er mwyn bwrw’r targed, ac mae llefarydd ar ran Downing Street yn dweud y bydd modd trefnu apwyntiad ar Ddydd Nadolig, hyd yn oed.

“Fy nealltwriaeth i yw y bydd yna apwyntiadau ar gael ar Ddydd Nadolig, ac yn amlwg bydd y Gwasanaeth Iechyd yn monitro’r galw,” meddai’r llefarydd.

“Er enghraifft, y llynedd, roedd y Gwasanaeth Iechyd ar agor ar gyfer brechlynnau ar Ddydd Nadolig, ond ni welsom alw enfawr ar Ddydd Nadolig.

“Pe bai unigolion yn dymuno dod ymlaen, byddwn yn sicrhau bod yna gapisiti.”