Gyda’r nifer mwyaf o achosion newydd o’r Covid ers dechrau’r flwyddyn, mae gwyddonwyr yn rhybuddio bod Omicron ar fin dod yr amrywiolyn mwyaf cyffredin o’r haint ym Mhrydain.
Mae dadansoddiad o’r amrywiolyn yn dangos hefyd fod cael y brechlyn atgyferthu yn hanfodol er mwyn cael gwrthsafiad o tua 70% i 75% yn erbyn yr haint.
Cafodd 58,194 o achosion Covid-19 eu cadarnhau yn y Deyrnas Unedig ddoe (dydd Gwener 10 Rhagfyr), wrth i weinidog y cabinet, Michael Gove, ddisgrifio’r sefyllfa fel “un sy’n peri pryder mawr”. Y tro diwethaf i ffigur uwch gael ei adrodd oedd ar 9 Ionawr eleni.
Cafodd 448 o achosion ychwanegol o amrywiolyn Omicron eu cadarnhau ddoe, gan gynnwys pedwar yng Ngymru.
Yn ôl Michael Gove, mae’r heintiadau Omicron yn dyblu pob dau neu dri diwrnod yn Lloegr, ac o bosibl yn gynt fyth yn yr Alban.
“Fe wyddon ni fod 30% o’r achosion sy’n cael eu hadrodd yn Llundain yn rhai amrywiolyn Omicron, a dyw Omicron ond wedi cael ei ddarganfod yn y wlad yma bythefnos yn ôl,” meddai.