Mae yna ymateb cymysg wedi bod i gyngor newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer gwisgo mygydau mewn bwytai a thafarndai dros y Nadolig, gydag un tafarnwr yn dweud wrth golwg360 y bydd sicrhau cydymffurfiaeth yn “hunllef”.

Mewn cynhadledd i’r wasg ddoe (dydd Gwener, 10 Rhagfyr), dywedodd Mark Drakeford y dylai pobol gymryd prawf llif unffordd cyn mynd allan a chyn teithio, ac mae disgwyl i bobol wisgo gorchudd wyneb mewn bwytai a thafarndai pan nad ydyn nhw’n bwyta ac yfed.

Ni fydd pasys Covid yn cael eu hymestyn i gynnwys tafarndai a bwytai am yr wythnos nesaf, meddai Mark Drakeford.

Er bod achosion o’r amrywiolyn Omicron yn isel yng Nghymru ar y funud, gyda naw achos wedi’u cadarnhau, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r ffigwr hwnnw godi.

Dywedodd Mark Drakeford nad yw’r Llywodraeth “eisiau meicro-reoli” bywydau pobol, ond y dylai pawb feddwl am les y bobol maen nhw’n eu cyfarfod.

“Hunllef i’w weithredu”

“Mae o’n mynd i fod yn hunllef i’w weithredu,” meddai John Evans, perchennog tafarn y Black Boy yng Nghaernarfon wrth golwg360.

“Mae gen ti Boris Johnson yn dweud un peth, Mark Drakeford yn dweud rhywbeth arall, ac wedyn rheolau gwahanol yn yr Alban.

“Mae o’n iawn os ydi pawb yn [gwisgo mygydau], a phawb yn dilyn yr un rheolau, ond mae’r nonsens yma o reolau gwahanol yn yr Alban, Lloegr a Chymru yn gwneud pethau yn lot fwy anodd i unrhyw un sy’n ceisio rhedeg busnes.

“Rydan ni’n cael cwsmeriaid o bob man yn y Deyrnas Unedig.

“Rydan ni wedi cael digon o drafferth ceisio gweithredu’r rheolau gwahanol yma [drwy gydol y pandemig], ond mi fydd o yn fwy anodd y tro yma.

“Dim yr heddlu ydan ni.”

Hoffai John Evans weld y rheolau yn aros fel y maen nhw, gan ei fod yn poeni am yr effaith ar ei fusnes dros gyfnod y Nadolig.

“Ges i fy nysgu y mwyaf o reolau sydd gen ti, y mwyaf tebygol ydi pobol o’u torri nhw, a dyna yn union ddigwyddith.

“A does dim dwywaith y bydd mwy o bobol yn cadw draw oherwydd mwy o reolau.

“Rydan ni wedi cael pobol yn canslo byrddau ac ati gyda ni yn barod.”

“Penderfyniad yr unigolyn”

Mae Patrick Barry, perchennog Patrick’s Bar ym Mangor, yn credu bod gofyn i bobol wisgo mygydau mewn tafarndai yn beth da.

Fodd bynnag, mae’n teimlo’n anghyfforddus ynglyn â gorfodi cwsmeriaid i wneud hynny gan ei fod yn credu mai “penderfyniad yr unigolyn” ddylai o fod.

“Dw i’n meddwl ei fod o’n syniad da,” meddai wrth golwg360.

“Oherwydd os wyt ti’n mynd i glwb nos mae pobol yn dangos pasys covid, ond dydyn nhw ddim yn gwisgo mygydau.

“Mae’n well i bobol wisgo mygydau oherwydd mae’n stopio’r feirws rhag lledaenu.

“Mae fy staff i gyd yn gwisgo mygydau yn barod, synnwyr cyffredin ydi o.

“Ond eto, mae hi fyny i’r cwsmeriaid os ydyn nhw am wisgo un neu beidio, penderfyniad yr unigolyn ddylai o fod.

“Yn bersonol, dw i’n 53 a dw i eisiau byw am ychydig yn hirach.”

Cynhadledd Covid y Prif Weinidog: Adolygu cyfyngiadau Cymru’n wythnosol o hyn ymlaen

Mark Drakeford wedi gwrthod gwneud sylw ar “honiadau gwyrdroëdig” ei fod wedi galw am gyfnod clo rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd