Bydd cyfyngiadau Covid Cymru yn cael eu hadolygu’n wythnosol o hyn ymlaen, yn hytrach na bob tair wythnos.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford mewn cynhadledd i’r wasg heddiw (10 Rhagfyr) fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad hwnnw gan fod “pethau yn gallu newid yn gyflym” gyda’r feirws.

Bydd Cymru yn aros ar lefel rhybudd sero, ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod sawl peth y gall, ac y dylai, pobol eu gwneud i ddiogelu eu hunain ac eraill.

Gwrthododd Mark Drakeford â gwneud sylw ar yr “honiadau gwyrdroëdig” ei fod wedi galw am gyflwyno cyfnod clo rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Dywedodd nad yw e “eisiau meicro-reoli” bywydau pobol, ond y dylai pawb feddwl am y bobol maen nhw’n eu cyfarfod.

Dylai pobol gymryd prawf llif unffordd cyn mynd allan a chyn teithio, ac mae disgwyl i bobol wisgo gorchudd wyneb mewn bwytai a thafarndai pan nad ydyn nhw’n bwyta ac yfed.

Ni fydd pasys Covid yn cael eu hymestyn i gynnwys tafarndai a bwytai am yr wythnos nesaf, meddai Mark Drakeford.

Er bod achosion o’r amrywiolyn Omicron yn isel yng Nghymru ar y funud, gyda naw achos wedi’u cadarnhau, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r ffigwr hwnnw godi.

Mae Mark Drakeford yn pwysleisio mai’r brechlyn yw’r “anrheg Nadolig gorau y gallwch chi ei roi i chi eich hun a’ch teulu” eleni.

“Does yna ddim byd y gwnewch chi ei wneud y diwrnod hwnnw am fod yn bwysicach er mwyn cadw’ch hunan yn ddiogel.

“Mae pob un brechlyn yn fuddugoliaeth fach dros y feirws hwn.”

“Gallai lot newid mewn tair wythnos”

Mae’n bosib bod Cymru tuag wythnos ar ôl Lloegr a’r Alban o ran lledaeniad amrywiolyn Omicron, ond mae digon o dystiolaeth i ddangos fod yr amrywiolyn yn lledaenu’n sydyn.

Er bod Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd Omicron yn disodli Delta fel yr amrywiolyn mwyaf amlwg yn y wlad yn sydyn, maen nhw’n rhagweld mai Delta fydd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r achosion am yr wythnos nesaf.

“Tasa ni ond wedi bod yn wynebu Delta yna dw i’n meddwl y byddai ein llwybr drwy’r Nadolig ac i mewn i’r flwyddyn newydd wedi bod yn gymharol rhwydd, oherwydd gyda Delta’n unig mae niferoedd y bobol sy’n mynd yn sâl yng Nghymru rhy uchel, dal, ond maen nhw’n sefydlog,” meddai Mark Drakeford.

“Mae nifer y bobol sydd angen gofal ysbyty wedi bod yn gostwng dros y bythefnos ddiwethaf.

“Felly am yr wythnos nesaf, rydyn ni’n teimlo ein bod ni’n gallu parhau â’r lefel o fesurau sydd gennym ni ar y funud, gan eu cynyddu yn y ffordd dw i wedi’i ddisgrifio.

“Ond rydyn ni am symud pryd rydyn ni’n gwneud ein penderfyniad ymlaen, dydyn ni ddim am aros tair wythnos. Gallai lot fawr newid mewn tair wythnos.”

Mewn wythnos, bydd mwy o wybodaeth ynghylch sut mae Omicron yn lledaenu yn Lloegr a’r Alban, a sut y mae wedi dod i Gymru, meddai.

Nid yw yn amlwg pa mor ddifrifol yw’r salwch sy’n cael ei achosi gan amrywiolyn Omicron, na sut effaith mae’r brechlynnau’n ei gael arno.

Er hynny, mae Llywodraeth Cymru, a Sefydliad Iechyd y Byd, yn dweud mai brechlynnau yw’r amddiffyniad gorau yn ei erbyn.

Ymateb yn sydyn a chynnar

Yn ystod y gynhadledd, dywedodd Mark Drakeford mai cyngor SAGE ers y dechrau yw ymateb yn sydyn a chynnar os oes angen gwneud hynny.

Dywedodd ei fod yn derbyn y gallai cyflwyno cyfyngiadau newydd “ypsetio” busnesau ac unigolion.

“Dylech chi actio’n gynnar, a cheisio trechu’r broblem yn fuan y gorau gallwch chi” os yw’r wyddoniaeth yn rhybuddio eich bod chi’n wynebu problemau, meddai.

“Mae hynny’n gallu bod yn anodd ac yn siomedig, ond dw i dal yn meddwl mai dyna’r peth iawn i’w wneud,” meddai.

Dywedodd mai’r peth pwysig yw paratoi, gan annog busnesau i wneud hynny hefyd, ond nad yw hynny’n golygu y bydd angen mesurau llymach.

Wrth ystyried pa arian fyddai ar gael i fusnesau pe bai angen mwy o fesurau yn sgil amrywiolyn Omicron, dywedodd Mark Drakeford y byddai’n rhaid i Drysorlys y Deyrnas Unedig weithredu.

“Ond os yw’r amrywiolyn newydd yn lledaenu, fel mae rhai modelau yn awgrymu, bydd rhaid i’r Trysorlys weithredu i ddelio ag unrhyw effaith economaidd.

“Ni all yr un llywodraeth ddatganoledig ddarparu’r gefnogaeth angenrheidiol yn y fath amgylchiadau.

“Felly, dw i eisoes wedi nodi hynny yn uniongyrchol wrth siarad â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a byddaf yn gwneud hynny eto’r prynhawn hwn.”

“Honiadau gwyrdroëdig”

Yn ystod y gynhadledd, dywedodd Mark Drakeford na fydd yn gwneud sylw ar “honiadau gwyrdroëdig” ei fod wedi bod yn galw am gyfnod clo rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Yn ôl y blogiwr gwleidyddol adain dde Guido Fawkes, mae’r Prif Weinidog wedi bod yn galw am reolau llymach dros yr ŵyl.

Dywedodd Mark Drakaford fod yr adroddiadau hynny’n “torri rheolau’r mathau yna o gyfarfodydd”, ac yn ffordd o “dynnu sylw oddi wrth drafferthion niferus y Deyrnas Unedig yr wythnos hon”.

Fe wnaeth Mark Drakeford ddweud ei fod yn annog Llywodraeth Cymru i gynllunio ymlaen llaw, a chymryd camau er mwyn mynd i’r afael â’r pandemig.

“Dw i wedi gwneud hynny dro ar ôl tro ar y platfform yma, a dw i’n hapus i ailadrodd hynny heddiw.”

Gofynnwyd i Mark Drakeford a yw’n credu y dylai Boris Johnson gamu lawr fel Prif Weinidog yn sgil yr honiadau bod partïon wedi cael eu cynnal yn Downing Street dros y Nadolig llynedd, a dywedodd: “Dyw e ddim i mi, dw i ddim yn gweithredu yn San Steffan.

“Dw i’n canolbwyntio ar fy swydd i, a thrio gwneud fy swydd mor dda ag ydw i’n gallu.”

“Llywodraeth ein hunain”

Gofynnwyd iddo hefyd a yw’n credu bod yr adroddiadau am y partïon honedig yn Downing Street, a gafodd eu cynnal yn ystod cyfnod clo, am wneud pobol yng Nghymru yn llai tebygol o gadw at reolau Covid.

Wrth ateb i gwestiwn GB News, dywedodd mai’r “gwahaniaeth sylweddol” yw bod gan Gymru, fel yr Alban a Gogledd Iwerddon, lywodraeth eu hunain.

“Mae’r negeseuon rydyn ni wedi’u rhoi i bobol yng Nghymru wedi bod yn wahanol iawn i’r rhai mae’r Prif Weinidog wedi’u cyfleu dros y ffin drwy gydol y pandemig,” meddai Mark Drakeford.

“Dw i erioed wedi dod yma a dweud wrth bobol yng Nghymru: ‘Bydd hyd i gyd drosodd mewn deuddeg wythnos’… ‘bydd hyn i gyd drosodd erbyn Pasg… i gyd drosodd erbyn y Nadolig’… bod ‘Diwrnod Rhyddid yn set o benderfyniadau di-droi’n-ôl’.

“Rheiny yw’r pethau, dw i’n meddwl, sy’n tueddu i erydu hyder pobol yn yr hyn mae’r llywodraeth yn ei ddweud, os yw’r llywodraeth wastad yn dweud pethau sydd ar ben amhosib o optimistaidd y sbectrwm.

“Yma yng Nghymru rydyn ni wedi trio fel Llywodraeth i esbonio i bobol nad yw coronafeirws drosodd, bod eisiau i ni barhau â’r pethau rydyn ni’n eu gwneud, os ydyn ni’n mynd ymlaen yn ofalus yna dyna ffordd orau i gadw ni’n sâff.

“Dw i’n gobeithio bod y ffaith fod pobol yng Nghymru wedi cael y negeseuon cyson hynny’n golygu y byddwn ni’n parhau i gael cefnogaeth y mwyafrif helaeth o bobol, fel rydyn ni wedi bod yn lwcus i’w gael hyd yn hyn, sy’n meddwl a gweithredu’n ofalus, ac yn chwarae eu rhan bob dydd.”

Y brechlyn atgyfnerthu yw’r “anrheg Nadolig orau y gallwch chi ei rhoi i chi eich hun a’ch teulu eleni”

Llywodraeth Cymru’n cynghori pobol i wneud prawf llif unffordd cyn cymdeithasu ond yn parhau ar rhybudd lefel sero

Llywodraeth Cymru “ddim yn rhagweld y bydd rhaid gwneud newidiadau sylweddol i’r rheoliadau presennol ar hyn o bryd”

Roedd honiadau’n cylchredeg ar y we fod Prif Weinidog Cymru yn dymuno gweld cyfnod clo llawn yng Nghymru rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd