Mae Llywodraeth yr Unol Daleithiau wedi llwyddo gydag ymgais gyfreithiol i gael estraddodi Julian Assange.

Mae sylfaenydd WikiLeaks yn wynebu 18 cyhuddiad yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys honiadau o gynllwynio i hacio cyfrifiaduron a chynllwynio i ddatgelu manylion cudd-wybodaeth.

Daw’r achos ar ôl i WikiLeaks gyhoeddi cannoedd ar filoedd o ddogfennau rhwng 2010 a 2011 yn ymwneud gyda rhyfeloedd Irac ac Affganistan, yn ogystal â gwybodaeth ddiplomyddol.

Roedd yr awdurdodau yn yr Unol Daleithiau wedi herio penderfyniad yr Uchel Lys, a ddywedodd ym mis Ionawr na ddylai Julian Assange gael ei yrru o Brydain i’r Unol Daleithiau.

Ar ôl gwrandawiad deuddydd ym mis Hydref, daeth dau farnwr i’r canlyniad heddiw (10 Rhagfyr) eu bod nhw’n cytuno gyda’r Unol Daleithiau.

Roedd y Barnwr Vanessa Baraitser, a wnaeth y dyfarniad ar ran yr Uchel Lys ym mis Ionawr, wedi dweud bod perygl y byddai Julian Assange yn lladd ei hun pe bai’n cael ei yrru i’r Unol Daleithiau.

Fodd bynnag, daeth y barnwyr heddiw i’r casgliad ei bod hi wedi selio’r dystiolaeth honno ar y sail fod Assange dan glo mewn carchar â rheoliadau llym iawn.

Mae awdurdodau’r Unol Daleithiau wedi dweud na fyddai’n wynebu’r mesurau llymaf hynny cyn yr achos nag ar ôl cael ei gyhuddo, oni bai ei fod yn cyflawni trosedd yn y dyfodol a fyddai’n galw am y fath reoliadau.

Mae disgwyl y bydd Assange yn ceisio apelio yn erbyn y penderfyniad diweddaraf hwn.

Yr Old Bailey yn Llundain

Barnwr yn gwrthod cais yr Unol Daleithiau i estraddodi Julian Assange

Dyfarnodd y barnwr na ddylai sylfaenydd WikiLeaks gael ei estraddodi am “resymau iechyd meddwl”