Mae ofnau bod hyd at 100 o bobl wedi cael eu lladd mewn corwyntoedd dros nos yn Kentucky a thaleithiau eraill cyfagos yn America.
Dywed llywodraethwr Kentucky fod y dalaith wedi dioddef y corwyntoedd gwaethaf ers amser maith. Mae adroddiadau fod o leiaf chwech o bobl wedi eu lladd yno, ond mae pryderon am ddwsinau yn rhagor o weithwyr a oedd mewn ffatri a chwythodd i’r llawr yn nhref Mayfield.
Yn nhalaith gyfagos Illinois hefyd, mae o leiaf un person wedi’i ladd wrth i do warws Amazon anferth wedi dymchwel yn Edwardsville. Ymhellach i’r de, yn Arkansas, cafodd cartref nyrsio ei daro gan gorwynt, gan ladd un person a chaethiwo 20 arall wrth i’r adeilad ddymchwel.
Mae’r stormydd wedi achosi marwolaethau hefyd yn nahleithiau Tennessee a Missouri.
Dywedodd yr Arlywydd Joe Biden fod effeithiau’r corwyntoedd yn “drychinebus”.
“Rydym yn gweithio gyda llywodraethwyr i sicrhau bod ganddyn nhw’r hyn mae arnyn nhw ei angen wrth i’r chwilio barhau,” meddai.