Mae un plismon wedi cael ei ladd ac un arall wedi ei anafu wrth ddiogelu tîm o weithwyr yn brechu rhag polio yng ngogledd-orllewin Pacistan.

Mae carfan o’r Taliban yn y wlad wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Cafodd y ddau eu saethu ar ail ddiwrnod ymgyrch bum-niwrnod i frechu 6.5 miliwn o blant. Roedd dau ddyn ar feic modur wedi tanio ar y tîm o blismyn oedd yn hebrwng y brechwyr, gan ladd un yn y fan a’r lle ac anafu’r llall yn ddifrifol. Chafodd neb o’r brechwyr eu hanafu.

Mae eithafwyr yn y wlad yn aml yn targedu timau polio a’r heddlu sy’n eu hamddiffyn, gan honni bod ymgyrchoedd brechu yn gynllwyn gan y gorllewin i ddiffrwythloni plant

Pacistan ac Afghanistan yw’r unig ddwy wlad yn y bydd lle mae polio yn endemig, ar ôl i Nigeria ddatgan y llynedd ei bod yn rhydd o’r feirws.