Mae cynghorydd yng Ngwynedd wedi ei gael yn euog o dorri cod ymddygiad llywodraeth leol yn dilyn honiadau o ‘ymddygiad o fwlio’ a ‘sylwadau rhywiaethol’ tuag at cyn-glerc cyngor tref.

Er bod y Cynghorydd Mike Stevens yn cynrychioli Tywyn ar Gyngor Sir Gwynedd, mae’r dyfarniad yn ymwneud â’i ymddygiad fel aelod o Gyngor Tref Tywyn, swydd yr ymddiswyddodd ohoni yr wythnos yma.

Clywodd Pwyllgor Safonau Gwynedd dystiolaeth gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fod Mike Stevens wedi anfon cyfres o negeseuon e-bost at glerc y cyngor tref ar y pryd,

Yn ôl Katrin Shaw, a oedd yn cynrychioli swyddfa’r Ombwdsmon, roedd Mike Stevens wedi dangos “patrwm o ymddygiad” trwy gyhuddo’r clerc o “fod â gormod o lawer o feddwl ohoni hi ei hun”.

Meddai Katrin Shaw: “Mae rhai cyfeiriadau ynddyn nhw sydd ym marn yr Ombwdsmon wedi croesi’r llinell ac yn ceisio tanseilio a bwlio’r clerc yn ei swydd.”

Penderfynodd y Pwyllgor Safonau fod Mike Stevens wedi torri pedair elfen o’r cod ymddygiad gan gynnwys methu â dangos parch ac ystyriaeth at eraill ac ymddwyn mewn modd a allai ddwyn anfri ar ei swydd neu ei awdurdod.

Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Safonau, Dr Einir Young, y byddai’r pwyllgor wedi ei wahardd o’i swydd fel cynghorydd tref am gyfnod maith oni bai ei fod wedi ymddiswyddo o’r swydd honno. Penderfynodd y pwyllgor y dylid yn lle hynny ei geryddu a gofyn iddo ystyried ei ymddygiad tuag at eraill mewn unrhyw swydd arall mae’n ei dal.

Ar ôl y gwrandawiad, dywedodd Mike Stevens y byddai’n apelio yn erbyn y penderfyniad.

“Does dim sail i honiad yr Ombwdsmon o fwlio, ac nid yw’n cynnig unrhyw dystioliaeth i gadarnhau hyn oherwydd does dim gan na ddigwyddodd hynny erioed,” meddai.