Byddai mwyafrif llethol o etholwyr Gweriniaeth Iwerddon yn cefnogi Iwerddon unedig mewn refferendwm, yn ôl arolwg barn newydd.
Dangosodd arolwg Ipsos MRBI i’r Irish Times y byddai 62% o bleidleiswyr yn cefnogi uno Iwerddon, gyda 16% yn erbyn, 13% ddim yn gwybod, ac 8% yn dweud na fydden nhw’n pleidleisio.
Dywedodd mwyafrif bach y bydden nhw o blaid cysylltiadau agosach rhwng Iwerddon a Phrydain mewn sefyllfa o’r fath – 47% o gymharu â 42%. Byddai 44% hefyd yn derbyn gwleidyddion unoliaethol o Ulster i ymuno â llywodraeth yn Nulyn, o gymharu â 42% yn erbyn.
Byddai 77% fodd bynnag yn gwrthod derbyn baner newydd, 72% yn erbyn anthem genedlaethol newydd a 71% yn erbyn ailymuno â’r Gymanwlad.
Pleidleiswyr Fine Gael oedd fwyaf tebygol o wrthwynebu Iwerddon unedig, gyda 25% ohonyn nhw’n dweud y bydden nhw’n dewis gweld Gogledd Iwerddon yn aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.
Ar y llaw arall, roedd 78% o bleidleiswyr Sinn Fein yn cefnogi Iwerddon unedig, a 36% yn dweud fod hynny’n fater pwysig a blaenoriaeth iddyn nhw. Er hynny, roedd 8% o bleidleiswyr Sinn Fein hyd yn oed yn dewis gweld Gogledd Iwerddon yn aros yn rhan o’r Deyrnas unedig.
Cafodd yr arolwg ei wneud yn gynharach yr wythnos yma ar sail sampl o 1,200 o bobl a oedd yn cynnwys cynrychiolaeth o bob etholaeth yn y Weriniaeth.