Mae aelodau YesCymru wedi ailddechrau pleidleisio yn etholiad y mudiad ar gyfer mabwysiadu cyfansoddiad newydd.

Mae’r bleidlais yn cyd-ddigwydd â Chyfarfod Cyffredinol Arbennig i drafod y cynigion ar gyfer cyfansoddiad newydd i’r mudiad.

Mae’r cynigion hyn yn dilyn misoedd o ffraeo ymysg aelodau’r mudiad, gan gynnwys honiadau fod ymdrechion bwriadol gan rai i symud y pwyslais oddi wrth annibyniaeth i Gymru.

Problem

Fe fu’n rhaid atal y pleidleisio neithiwr oherwydd problem dechnegol, ac mae’r pleidleisiau a gafodd eu bwrw ddoe wedi cael eu hannilysu.

Mae pawb a bleidleisiodd ddoe yn cael eu gwahodd a’u hannog i bleidleisio eto ac mae YesCymru wedi ymddiheuro i’w haelodau am yr anhwylustod.

Daeth y broblem i’r amlwg ddoe pan ddatgelodd nifer fawr o gyn-aelodau ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod wedi derbyn cyswllt pleidleisio drwy e-bost.

Arweiniodd hyn at ganslo’r bleidlais – gyda dolen bleidleisio newydd yn cael ei anfon allan y bore yma.

Mae adroddiadau fod y mudiad wedi colli 10,000 o aelodau ers yr uchafbwynt o 18,000 ym mis Mawrth 2021 – gyda’r aelodaeth bellach yn 8,000.

Llywelyn ein Llyw Olaf

Yn y cyfamser, wrth i YesCymru annog ei aelodau i gofio Llywelyn ein Llyw Olaf heddiw, mae’r digwyddiadau blynyddol i nodi’r achlysur wedi cael eu gohirio.

Dywed Pwyllgor Cofio Llywelyn eu bod wedi penderfynu gohirio’r digwyddiadau yng Nghilmeri ac Abaty Cwm Hir yn sgil pryderon am iechyd a diogelwch.

Roedd plac i gofio byddin Llywelyn hefyd i fod i gael ei ddadorchuddio heddiw, ond bydd hynny bellach yn digwydd rywbryd y flwyddyn nesaf.