Gall fod help ar gael i bobl ar incwm isel gynhesu eu tai trwy gynllun gan Lywodraeth Cymru sy’n agor ddydd Llun (13 Rhagfyr).
O dan y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf, bydd pobl gymwys yng Nghymru yn gallu hawlio un taliad o £100 gan eu hawdurdod lleol fel cyfraniad at dalu eu biliau tanwydd y gaeaf hwn. Bydd gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael ar wefannau’r Awdurdodau Lleol.
Wrth gyhoeddi’r pecyn o gyllid, dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:
“Mae aelwydydd Cymru o dan straen ariannol nas gwelwyd mo’i fath o’r blaen, gyda mwy o bobl a phlant yn byw mewn tlodi yn sgil yr argyfwng costau byw a phenderfyniad creulon Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddod â’r cynnydd i’r Credyd Cynhwysol i ben.
“Mae’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn un o’r camau yr ydym yn eu cymryd gyda’n partneriaid i ddiogelu aelwydydd incwm is ac sy’n agored i niwed yn ystod cyfnodau o dywydd oer.
“Bydd awdurdodau lleol yn cysylltu ag aelwydydd ledled Cymru a allai fod yn gymwys am y Cynllun i’w gwahodd i wneud cais am y taliad. Gall unrhyw un nad ydynt wedi clywed gan yr Awdurdod Lleol, ac sy’n teimlo’u bod yn gymwys ar gyfer y taliad, gyflwyno hawliad drwy wefan yr awdurdod lleol o ddydd Llun ymlaen. Bydd ar gael i bob cwsmer ynni cymwys p’un a ydynt yn talu am danwydd ar fesurydd ymlaen llaw neu fesurydd credyd.
“Hoffwn ddiolch i’n partneriaid mewn Llywodraeth Leol am sicrhau bod y cynllun yn barod cyn y Nadolig. Bydd hyn yn help mawr i’r mwyaf anghenus yn y cyfnod hwn.”