Mae disgwyl i dros 60 o Aelodau Seneddol Toriaidd bleidleisio yn erbyn cynlluniau Boris Johnson i dynhau mesurau coronafeirws yn Lloegr yr wythnos nesaf.

Roedd y Prif Weinidog wedi cyhoeddi ddydd Mercher y byddai’n gosod cyfyngiadau llymach er mwyn helpu gwrthsefyll amrywiolyn Omicron o’r feirws.

Mae’r mesurau sy’n cael eu cynnig ar gyfer Lloegr yn debycach i’r rhai sydd eisoes ar waith yng Nghymru, fel gwneud gwisgo mygydau yn orfodol mewn lleoedd cyhoeddus o dan do, anogaeth i weithio o gartref, a’r angen am brofion o fod wedi cael brechiad ar gyfer rhai lleoliadau.

Ymysg y Torïaid sy’n gwrthwynebu’r cyfyngiadau llymach mae’r cyn-weinidogion cabinet David Davis, Esther McVey, Dr Liam Fox a Greg Clark. Mae amryw o ASau o etholaethau ‘wal goch’ y Toriaid yng ngogledd Lloegr hefyd yn bygwth gwrthryfela.

Dywedodd y cyn-weinidog Brexit Steve Baker fod gweinidogion presennol hefyd yn debygol o ymddiswyddo er mwyn cael pleidleisio yn erbyn y llywodraeth.

Rhybudd o hyd at 75,000 o farwolaethau

Yn y cyfamser, mae gwyddonwyr sy’n cynghori’r llywodraeth yn rhybuddio y gall fod angen cyfyngiadau llymach na’r rhai mae’r Llywodraeth yn eu cynnig.

Yn ôl yr arbenigwyr o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain (LSHTM), gallai heintiadau Omicron achosi hyd at 75,000 o farwolaethau yn Lloegr o dan y senario waethaf dros y pum mis nesaf. Gallai hyn ddigwydd os bydd achosion Omicron yn debyg i achosion Delta o ran difrifoldeb salwch.

Mewn sefyllfa o’r fath, gallai cyfyngu ar dai bwyta a thafarndai, cau rhai mathau o leoliadau adloniant a chyfyngiadau ar faint o bobl a ymgasglu mewn un lle, helpu rheoli’r don debygol o Omicron.

Mewn sefyllfa sy’n newid yn gyflym, gobaith y gwyddonwyr yw y bydd mwy o ddata dros yr ychydig wythnosau nesaf yn cryfhau eu gwybodaeth am yr hyn y bydd angen ei wneud.