Mae dynes 39 oed wedi marw yn yr ysbyty ar ôl cael ei tharo gan gerbyd yng Nghaerdydd dros bythefnos yn ôl.
Fe ddigwyddodd y ddamwain am 14:15 brynhawn dydd Gwener (Tachwedd 26), wrth i dryc pick-up Volkswagen Amarok daro i mewn i’r ddynes, a oedd yn cerdded yn ardal Parc Fictoria.
Cafodd y ddynes o ardal Treganna anafiadau difrifol a bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn ddiweddarach.
Cafodd dyn 45 oed, sydd hefyd o ardal Treganna, ei arestio ar amheuaeth o yrru o dan ddylanwad cyffuriau, ond mae bellach wedi cael ei ryddhau tra bod yr ymchwiliad yn parhau.
Apêl
“Rydyn ni’n ymchwilio i wrthdrawiad ffordd a ddigwyddodd ar y gylchfan ar gyffordd Thompson Avenue a Windway Avenue ym Mharc Fictoria, Caerdydd, tua 14:15 ddydd Gwener, 26 Tachwedd,” meddai’r heddlu.
“Rydyn ni’n awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y digwyddiad, y pick-up Volkswagen Amarok yn gyrru cyn y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a allai fod â lluniau dashcam o’r gwrthdrawiad.”
Mae unrhyw un a all helpu swyddogion fel rhan o’r ymchwiliad yn cael eu hannog i gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddefnyddio’r cyfeirnod 2100414754.