Fe fydd pump o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn gallu elwa o fyd natur trwy gyllid o bron i £300,000 fel rhan o raglen ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Caiff y cyllid ei roi drwy raglen ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau’.

Cafodd y gronfa ei sefydlu ym mis Gorffennaf i gynnig grantiau o £30,000 i £100,000 i annog grwpiau difreintiedig a lleiafrifoed ethnig, ffoaduriaid, Sipsiwn, Roma a Theithwyr i gysylltu â natur – a’r cymunedau hynny yn y 30% uchaf o gymunedau mwyaf difreintiedig Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Y prosiectau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw sy’n derbyn cyfran o gyllid o £288,639 yw:

  • Y prosiect ‘Traveling Back to Nature’ gan y Romani Cultural and Arts Company a fydd yn cael ei gynnal ledled de-ddwyrain Cymru (£78,137)
  • Yng Nghaerdydd, mae’r prosiect ‘Greening Riverside’ sy’n cael ei redeg gan y South Riverside Community Development Centre, yn cael £81,202;
  • Mae prosiect ‘Greening Maindee Together’ yng Nghasnewydd sy’n cael ei redeg gan Maindee Unlimited a Community House Eton Road am dderbyn £39,300;
  • Mae’r prosiect ‘Connecting People to Nature’ a redir gan Llanelli Multicultural Network wedi sicrhau grant o £30,000;
  • A hefyd yng Nghaerdydd, mae ‘The Green Connect Project’ sy’n cael ei redeg gan Women Connect First, yn cael cyllid o £60,000.

“Rydym wedi ein calonogi’n fawr gan yr ymateb i’r cyllid ‘Chwalu Rhwystrau’ a ddarparwyd gennym i ehangu cyfranogiad ac ymgysylltiad gyda ein rhaglen ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’,” meddai Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru.

“Hoffwn longyfarch pawb sy’n ymwneud â’r prosiectau llwyddiannus. Mae yna dipyn o waith hynod ddiddorol i’w wneud yma rwy’n edrych ymlaen at ddysgu mwy amdano wrth i’r prosiectau symud yn eu blaenau.”

Treulio amser ym myd natur “erioed yn bwysicach”

“Ni fu gofalu am natur, helpu pobol i’w ddeall, treulio amser ynddo a gwerthfawrogi ei bwysigrwydd erioed yn bwysicach”, meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

“Dyna pam roeddem wrth ein boddau o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r rhaglen grant ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – Chwalu Rhwystrau’ i helpu i ailgysylltu pobol o gymunedau lleiafrifol a difreintiedig â’r byd naturiol.

“Mae’r rhaglen wedi anelu at ymgysylltu ag ystod ehangach o bobol â natur a bydd hefyd yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o’r rhwystrau sy’n eu hwynebu i ymgysylltu â natur a nodi atebion posibl.”

Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr yng Nghonwy

Daw’r cyhoeddiad ynghylch y cyllid newydd ddyddiau’n unig ar ôl i gynghorau sir Conwy a Dinbych lansio Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr yn y sir.

Fe fydd yr asesiad yn mesur anghenion Sipsiwn, Teithwyr a’u teuluoedd, ac yn disodli’r asesiad blaenorol a gafodd ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn 2017.

Maen nhw’n awyddus i glywed gan bobol sy’n perthyn i’r cymunedau hynny, a ydyn nhw’n byw neu’n galw yng Nghonwy neu Ddinbych ac a ydyn nhw’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i’r llefydd cywir i fyw neu aros yn y siroedd.