Mae’r clefyd coed Phytophthora pluvialis wedi cael ei ganfod yng Nghymru am y tro cyntaf, yng Nghoedwig Dyfi ger Machynlleth.

Gall y pathogen, sy’n debyg i ffwng, achosi i goed golli’u nodwyddau, a lladd egin ar y boncyff, y canghennau a’r gwreiddiau.

Mae’r pathogen yn effeithio ar nifer o wahanol rywogaethau o goed, gan gynnwys coed pinwydd, ffynidwydden Douglas a hemlog y gorllewin.

Dyma’r achos cyntaf i gael ei ddarganfod yng Nghymru, er bod achosion wedi’u canfod mewn rhannau o’r Alban a Lloegr o’r blaen.

Effaith

Cafodd y clefyd ei ddarganfod gyntaf yn Oregon yn yr Unol Daleithiau yn 2013, ac yna yn Seland Newydd yn 2014.

Dydi’r clefyd heb gael ei ganfod yn Ewrop nes yr achosion yn Lloegr a’r Alban eleni, ac mae ymchwil ar y gweill i geisio ei ddeall, a deall y niwed y gallai achosi i rywogaethau eraill.

Bydd hyn yn helpu i benderfynu pa fesurau rheoli sydd eu hangen, a’r effaith bosibl y gallai Phytophthora pluvialis ei gael ar y diwedd a’r sector coedwigaeth.

Llywodraeth Cymru sy’n berchen ar yr Ystâd Goed lle mae’r pathogen wedi’i ddarganfod.

“Byddwn yn parhau i weithio gydag asiantaethau partner ledled y Deyrnas Unedig i rannu gwybodaeth, profiad a dealltwriaeth er mwyn sicrhau dull ar y cyd o fonitro a rheoli’r sefyllfa,” meddai Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd.

Mae canllaw yn egluro symptomau’r clefyd wedi cael ei gyhoeddi, ac mae pobol yn cael eu hannog i roi gwybod am arwyddion o’r clefyd drwy borth ar-lein TreeAlert.