Mae rheithgor yn achos llys pedwar o bobol sydd wedi’u cyhuddo o ddifrod troseddol ym Mryste wedi clywed bod y ffaith fod Edward Colston yn fasnachwr caethweision yn “amherthnasol” i’r gwrandawiad.

Mae Rhian Graham (30), Milo Ponsford (26), Jake Skuse (33) a Sage Willoughby (22) gerbron Llys y Goron Bryste i wynebu’r cyhuddiad ar ôl iddyn nhw dynnu’r gofeb i lawr yn ystod protestiadau Black Lives Matter ar Fehefin 7 y llynedd.

Cafodd y gofeb ei thaflu i’r harbwr a’i gasglu drachefn gan Gyngor Dinas Bryste.

Mae’r pedwar wedi’u cyhuddo o ddifrodi’r gofeb ar y cyd â phobol anhysbys heb reswm cyfreithlon.

Mae Graham, Ponsford a Willoughby wedi’u cyhuddo o dynnu’r gofeb i lawr, tra bod Skuse wedi’i gyhuddo o fod yn gyfrifol am rolio’r gofeb i mewn i’r harbwr.

Yr erlyniad

Dywed erlynwyr fod oddeutu 10,000 o bobol wedi ymgasglu ar gyfer gorymdaith Black Lives Matter, a bod yr heddlu’n dweud ei fod yn ddigwyddiad “cyfeillgar” i’r gymuned “gyda’r pwyslais ar ddod ynghyd i wneud newid”.

Ond aeth criw bach oddi ar yr orymdaith ac ymgasglu ger y gofeb ar ôl i’r dorf fynd oddi yno, ac roedd tri o’r diffynyddion – Graham, Ponsford a Willoughby – wedi ei thynnu i lawr, ei difrodi â phaent, poeri arni a’i bwrw ag offerynnau cyn ei rholio drwy’r ddinas a’i thaflu i’r harbwr ger pont Pero.

Clywodd y llys fod y gofeb wedi cael ei rholio 520m cyn cael ei gwthio i’r dŵr, a bod y pedwar wedi cydweithio â phobol eraill i drefnu’r weithred.

Cafodd y gofeb ei chodi yn 1895 – 170 o flynyddoedd ar ôl marwolaeth Edward Colston – ac mae’r erlynwyr yn cydnabod ei fod yn “ffigwr sy’n hollti barn yng nghymuned Bryste a thu hwnt”.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n cydnabod ei fod yn fasnachwr caethweision oedd wedi dod yn gyfoethog o ganlyniad i’r diwydiant hwnnw, ond nad yw’r achos yn dibynnu ar ei gymeriad a’i bod yn “amherthnasol” i’r achos a’r dadleuon dan sylw yn y llys.

Clywodd y llys fod dros £4,000 o ddifrod wedi’i achosi i’r gofeb, ond na fydd y Cyngor yn ei thrwsio na’i hadnewyddu.

Y rheithgor

Roedd gofyn i’r rheithgor ddweud os oedd ganddyn nhw waith gyda Chyngor Dinas Bryste, Historic England neu Wasanaeth Erlyn y Goron, a oedden nhw’n perthyn i gynghorwyr lleol neu wedi’u cyflogi gan Heddlu Avon a Gwlad yr Haf neu heddlu arall.

Roedd gofyn hefyd iddyn nhw ddweud os oedden nhw yn y brotest pan gafodd y gofeb ei thynnu i lawr neu ei rholio i’r harbwr neu yn ystod ymdrechion i’w thynnu o’r dŵr.

Mae’r pedwar diffynnydd wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth ar hyn o bryd.