Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi heno (nos Lun, 13 Rhagfyr) y bydd pob oedolyn sy’n gymwys yn cael cynnig trydydd dos o’r brechlyn erbyn diwedd mis Rhagfyr.
Daw hyn ar ôl i Brif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, ddweud y byddan nhw’n “trïo” gwneud hynny yn gynharach heddiw.
Yn dilyn tystiolaeth newydd, sy’n dangos nad yw dau bigiad yn ddigon i amddiffyn rhag yr amrywiolyn Omicron, mae’r llywodraeth wedi penderfynu diwygio eu cynlluniau gwreiddiol a chynnig brechlyn atgyfnerthu i bawb dros 18 oed erbyn diwedd y mis.
Yn dilyn hynny, fe wnaeth Prif Weinidog Prydain, Boris Johnson, wrthod gwadu’r posibilrwydd y bydd cyfyngiadau pellach yn cael eu cyflwyno dros y Nadolig, gan ddweud y byddan nhw’n cymryd “pa bynnag gamau sy’n angenrheidiol er mwyn gwarchod iechyd y cyhoedd.”
Bydd Llywodraeth Cymru’n adolygu cyfyngiadau Covid-19 yn wythnosol yn sgil pryderon am amrywiolyn Omicron, gyda Dr Frank Atherton yn dweud ei bod hi’n “anochel bron” y bydd rhaid ystyried cyflwyno cyfyngiadau.
‘Wynebu sefyllfa ddifrifol iawn’
Yn ei neges heno, rhybuddiodd Mark Drakeford am beryglon yr amrywiolyn, a’r risgiau y gall beri i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Rhaid inni fod yn barod i achosion o'r amrywiad Omicron godi'n gyflym.
Nid yw dau ddos o frechlyn yn ddigon – mae'r dos atgyfnerthu yn hanfodol.
Rydym yn cyflymu ein rhaglen brechu ac rwy'n annog pawb i gael un pan ddaw’r amser.
➡️ https://t.co/EIstfsdERp pic.twitter.com/jUVphFsHKg
— Mark Drakeford (@PrifWeinidog) December 13, 2021
“Rhaid i ni baratoi am dwf mawr iawn a chyflym yn yr achosion – yn union fel pob rhan arall o’r Deyrnas Unedig,” meddai.
“Rydyn ni’n dal i ddysgu am y ffurf newydd hwn o’r coronafeirws. Ond, mae’r wybodaeth sydd gennym yn dweud ein bod yn wynebu sefyllfa ddifrifol iawn.
“Mae Omicron yn symud yn gyflym iawn. Erbyn diwedd y mis, Omicron fydd yr amrywiolyn mwyaf cyffredin o’r feirws, gan ddod â thon newydd o haint a salwch.
“Mae’n bosibl y bydd hyn yn arwain at nifer fawr o bobl yn yr ysbyty, ar yr union adeg pan mae’r Gwasanaeth Iechyd eisoes dan straen sylweddol.
“Bydd Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth y gallwn i amddiffyn iechyd y bobl, a diogelu Cymru.”
Cyflymu’r rhaglen frechu
Yn yr anerchiad, amlinellodd Drakeford hefyd gynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer y cynllun brechu erbyn diwedd y mis.
“Daeth tystiolaeth newydd bod ein brechlynnau yn effeithiol yn erbyn Omicron,” meddai.
“Nid yw dau ddos o’r brechlyn yn ddigon i roi’r amddiffyniad sydd ei angen ar bawb. Mae’r dos atgyfnerthu – y trydydd dos – yn hollbwysig.
“Rydym eisoes wedi cyflymu ein rhaglen atgyfnerthu; mae gennym glinigau newydd ac oriau agor hirach. Nawr, mae ymdrechion brys i gyflymu’r rhaglen eto.
“Ein nod yw cynnig apwyntiad i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd y flwyddyn, os gallwn.
“Dyma fydd blaenoriaeth y Gwasanaeth Iechyd dros yr wythnosau nesaf. A chithau hefyd – rhowch flaenoriaeth i’r pigiad atgyfnerthu.
“Dyma’r peth pwysicaf y gallwch ei wneud i amddiffyn eich hun yn erbyn y coronafeirws a’r amrywiolyn newydd.
“Rwyf am ddiolch i’n holl dimau brechu am eu gwaith caled i’n diogelu ni i gyd.”
‘Anochel’
Mae Cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Helen Whyley, wedi dweud ei bod hi’n cytuno gydag ehangu’r rhaglen frechu, ond y dylai Llywodraeth Cymru “gymryd pob cam sydd eu hangen i arafu’r lledaeniad er mwyn sicrhau bod gwasanaethau, staff, a’r cyhoedd yn cael eu hamddiffyn”.
Yn gynharach heddiw (dydd Llun, 13 Rhagfyr), dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru Dr Frank Atherton ei bod hi’n “anochel bron” y bydd rhaid ystyried cyflwyno rhai cyfyngiadau – ond nad yw’n disgwyl gweld cyfnod clo cenedlaethol.
“Yr hyn rydyn ni’n ei wneud yng Nghymru, fel gyda gweddill y Deyrnas Unedig – fel cyhoeddodd y Prif Weinidog ddoe – yw cyflymu’r broses o gynnig brechlynnau atgyfnerthu,” meddai wrth Radio Wales Breakfast.
“Roedd gennym ni gynllun i gynnig dos atgyfnerthu i bawb yng Nghymru erbyn diwedd Ionawr, ond rydyn ni am drio symud hynny ymlaen tuag at ddiwedd Rhagfyr.”
“Mae hi bron yn anochel y bydd yn arwain at fwy o bobol mewn ysbytai ac rydyn ni’n dechrau gweld hynny dros y Deyrnas Unedig, ac yma yng Nghymru.
“Dw i’n poeni’n fawr am yr hyn sy’n mynd i ddigwydd dros y bythefnos, dair wythnos nesaf, am y rheswm syml ei bod hi’n ymddangos mai tua deuddydd yw amser dyblu’r haint dros y Deyrnas Unedig – os ydyn ni’n lwcus.
“Mae hynny’n ein harwain ni’n sydyn at donnau anferth o ledaeniad cymunedol.”
Ychwanegodd ei fod yn credu y byddai Omicron yn broblem ar gyfer Ionawr neu Chwefror i ddechrau, ond fod y cyfraddau lledaenu, a’r ffaith ei bod hi’n debyg ei fod yn lledaenu yn y gymuned yn barod, yn golygu ein bod ni bellach yn “dipyn mwy tebygol o gael problemau yng nghyfnod y Nadolig ac yna Ionawr”.
Mae undeb athrawon NASUWT wedi galw am fesurau pellach ym myd addysg, gan gynnwys sicrhau bod plant yn dychwelyd i ysgolion a cholegau fesul ychydig fis Ionawr, a chyflwyno cyfleusterau ac adnoddau profi ychwanegol mewn ysgolion rhwng mis Ionawr a hanner tymor Chwefror.
Mae cynghorau Ynys Môn, Wrecsam a Sir Ddinbych wedi penderfynu rhoi gorau i ddysgu wyneb yn wyneb yn gynharach na’r disgwyl cyn y Nadolig (Dydd Gwener, 17 Rhagfyr), gydag addysg ar-lein yn dychwelyd ar gyfer tridiau olaf y tymor.