Bydd grŵp newydd o gynghorau yn ne Cymru a gorllewin Lloegr yn ceisio buddsoddiad y flwyddyn nesaf ar gyfer uwchraddio seilwaith ynni llanw a rheilffyrdd.

Mae’r ‘Western Gateway’ yn cael ei ddisgrifio fel gwrthbwynt i’r ‘Northern Powerhouse’, gyda’r gobaith o gael cyllid gan y llywodraeth ar gyfer cynlluniau seilwaith newydd.

Gan gynnwys dinasoedd fel Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd yng Nghymru, a Bryste a Chaerfaddon yn Lloegr, mae’r grŵp wedi gosod eu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Mae hyn yn cynnwys cynlluniau ynni llanw, a all weld morglawdd yn cael ei adeiladu ar hyd yr afon Hafren, yn ogystal ag ehangu rheilffyrdd, a hybu economi’r ardal.

Ynni llanw

Mae arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, yn aelod o fwrdd Western Gateway a fe yw eu harweinydd gwleidyddol ar ynni’r llanw.

Dywedodd y gallai ynni llanw yn aber yr afon Hafren ddarparu cymaint â saith y cant o gyfanswm yr ynni sydd ei angen ledled y Deyrnas Unedig.

“Hyd yn hyn, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod cefnogi cynllun oherwydd y canfyddiad y bydd [angen] llawer o fuddsoddiad arian cyhoeddus a phryderon ynghylch yr effaith amgylcheddol ar ardaloedd dynodedig,” meddai.

“Fodd bynnag, mae effaith cynyddol yr argyfwng hinsawdd, ansicrwydd ynni, costau cynyddol, a gwelliannau technolegol cyflym yn dangos efallai na fyddai llawer o’r rhwystrau hyn mor arwyddocaol mwyach.

“Rydyn ni eisiau darganfod beth ellid ei wneud i fanteisio ar yr adnodd ynni anhygoel hwn.

Ym mis Hydref, fe wnaeth y grŵp gyhoeddi eu bod nhw’n agor comisiwn newydd i archwilio adeiladu morglawdd ar hyd yr aber, yn ogystal ag archwilio opsiynau ar gyfer ynni llanw.

Rheilffyrdd

Mae’r grŵp yn ceisio cael mwy o fuddsoddiad ar gyfer rheilffyrdd hefyd, yn enwedig y prif reilffordd rhwng Abertawe a Llundain.

Dywedodd Huw Thomas fod mwy o arian cyhoeddus yn cael ei wario ar gynllun y Northern Powerhouse nag yn ardal y ‘Western Gateway’.

“Mae HS2 yn creu gwelliant sylweddol mewn cysylltedd ar draws rhannau eraill o’r wlad, ond mae’n rhoi ardal y Western Gateway mewn perygl o waethygu,” meddai.

“Nid yw de Cymru a gorllewin Lloegr wedi mwynhau’r un buddsoddiad i wella rheilffyrdd â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig dros y 30 mlynedd diwethaf.

“Mae’r tanfuddsoddi hwn wedi arwain at wasanaethau llai deniadol, denu llai o deithwyr, ac arwain at gymorthdaliadau uwch o’i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig.”