Mae Cymdeithas Alzheimer’s Cymru wedi lansio apêl i helpu’r rheiny sydd wedi eu heffeithio fwyaf gan y pandemig dros y Nadolig.

Y llynedd, roedd 16% o bobol a dementia wedi treulio Dydd Nadolig ar eu pen eu hunain, yn ôl arolwg gan yr elusen.

Fe wnaethon nhw hefyd ganfod bod 17% o deuluoedd yn teimlo euogrwydd a dicter eu bod nhw wedi colli Nadolig gyda’u perthnasau.

Bydd yr elusen felly yn lansio eu Hapêl Nadolig, gan alw ar y cyhoedd yng Nghymru i godi arian, sydd am gael ei ddefnyddio i roi cymorth i’r 50,000 o bobol sy’n dioddef â dementia yng Nghymru.

‘Yr unig beth sydd yn fy nghadw i fynd’

Roedd Kevin Jones o Wrecsam yn un a dreuliodd cyfnod y Nadolig y llynedd ar ei ben ei hun, oherwydd bod ei wraig, Jean, yn dioddef o dementia ac yn byw mewn cartref gofal.

“Y Nadolig hwn, fel yr un diwethaf, fydda i ar fy mhen fy hun,” meddai.

“Mae’r unigrwydd a’r arwahanrwydd yn annirnadwy. Rydw i’n lwcus ar un ystyr, fy mod yn gallu bod gyda’r fenyw rwy’n ei charu am ugain munud yr wythnos, cyn belled â fy mod yn trefnu hynny a’n cael prawf llif unffordd negyddol.

“Er bod Jean ddim yn fy adnabod i mwyach, dydy hynny ddim ots. Yr ymweliadau byr i’r cartref gofal yw’r unig beth sydd yn fy nghadw i fynd.

“Heb gefnogaeth Cymdeithas Alzheimer’s Cymru, dydw i ddim yn gallu dychmygu lle byddwn i. Nhw yw fy nghymorth hyd heddiw, yr un fath ag oedden nhw 20 mis yn ôl, a dw i’n ddiolchgar iawn am hynny.”

‘Hud yr ŵyl yn cael ei ddifetha’

I bron i draean o bobol yng Nghymru sydd wedi eu heffeithio gan Alzheimer’s, ymweliad chwarter awr yw’r unig gysylltiad maen nhw’n ei gael a’u perthnasau.

Hefyd, mae dau draean o ofalwyr teuluol yn pryderu am gyfnod y Nadolig, tra bod 24% yn gorfod delio â mwy o gyfrifoldebau gofalu oherwydd bod cyflyrau eu perthnasau wedi gwaethygu.

“I lawer dros y Nadolig, bydd hud yr ŵyl yn cael ei ddifetha gan ddirywiad yng nghyflwr eu hanwyliaid,” meddai Cheryl James, Rheolwr Ardal Cymdeithas Alzheimer’s Cymru.

“Wrth i deuluoedd a ffrindiau yng Nghymru edrych i gael amser gwell eleni i wneud iawn am y Nadolig diwethaf yn y cyfnod clo, mae pobl â dementia ein hangen ni fel erioed o’r blaen.

“Gyda’ch rhoddion hael, gallwn sicrhau nad oes rhaid i unrhyw un wynebu’r Nadolig yn unig a heb gefnogaeth ddigonol.”