Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf “wedi cadarnhau bod y wladwriaeth Brydeinig wedi torri y tu hwnt i’w thrwsio”, meddai Liz Saville-Roberts.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ei bod hi’n “hen bryd” i Boris Johnson ymddiswyddo, rhwng y “partïon Nadolig anghyfreithlon yn Rhif 10”, y “celwydd ynghylch ariannu gwaith adnewyddu Downing Street”, a sgandal Owen Paterson.

Dros y penwythnos cafodd llun o’r Prif Weinidog yn existed ochr yn ochr â’i gydweithiwr oedd yn gwisgo tinsel, ei gyhoeddi, ac mae honiadau ei fod wedi bod yn rhan o gwis ar 15 Rhagfyr 2020.

Yn ôl y Daily Mirror, roedd y staff wedi closio at gyfrifiaduron yn eu swyddfeydd, yn trafod y cwestiynau ac yn yfed alcohol, tra’r oedd y cwis yn digwydd.

Ar y pryd, roedd cyfyngiadau mewn grym yn Llundain oedd yn dweud nad oedd gwahanol aelwydydd yn cael cymysgu tu mewn, oni bai am swigod cymorth, ac mai dim ond chwe pherson oedd yn cael cyfarfod tu allan.

Wrth ymateb i’r honiadau ei fod wedi torri rheolau Covid drwy gynnal y cwis rhithiol yn Downing Street, dywedodd Boris Johnson na wnaeth dorri unrhyw reolau.

“Llond bol”

“Rhwng sgandal Owen Paterson, partïon Nadolig anghyfreithlon yn Rhif 10, a rŵan celwydd ynghylch ariannu gwaith adnewyddu Downing Street gyda chyfraniadau gan Dorïaid cyfoethog – mae pobol Cymru wedi hen gael llond bol o gelwydd Boris Johnson,” meddai Liz Saville-Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd.

“Rŵan, yn fwy nag ar unrhyw adeg arall, rydyn ni angen arweinwyr dibynadwy sy’n gallu argyhoeddi’r cyhoedd bod y Llywodraeth yn gweithredu er eu budd nhw.

“Ond gyda Boris Johnson, rydyn ni’n clywed un celwydd ar ôl y llall. Mae’n hen bryd iddo ymddiswyddo.”

Ymchwiliad

Mae Heddlu Llundain wedi dweud na fydden nhw’n ymchwilio i honiadau bod staff Downing Street wedi torri rheolau Covid fis Rhagfyr diwethaf, gan ddweud bod “diffyg tystiolaeth”.

Er hynny, daeth clip i’r amlwg yn dangos cyn-lefarydd Boris Johnson yn chwerthin ynghylch cynnal parti Nadolig yn ystod cyfnod clo.

Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal gan y gwas sifil Simon Case i weld a chafodd rheolau Covid eu torri.

Mae’n “gwbl annerbyniol bod yr Heddlu Metropolitan yn dewis sut i weithredu’r gyfraith yn unol â statws gwleidyddol y troseddwyr”, meddai Liz Saville-Roberts.

“Cafodd sawl person ifanc a llai pwerus na Boris Johnson ddirywon sylweddol am dorri rheolau Covid.

“Rhaid i’r heddlu ail-ystryried eu penderfyniad, neu fydd dim dadlau bod un gyfraith ar gyfer y mwyafrif ac un arall ar gyfer y Torïaid.”

“Celwyddgi”

Ychwanegodd Liz Saville-Roberts fod “mwy o bobol nag erioed yn edrych ar lanast San Steffan a meddwl – ai dyma’r gorau allwn ni ei wneud?”

“Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi cadarnhau bod y wladwriaeth Brydeinig wedi torri y tu hwnt i’w thrwsio.

“Rydyn ni wedi gweld bod celwyddgi fel Boris Johnson yn gallu twyllo ei ffordd i gyrraedd copa uchaf ein system wleidyddol – ac ychydig iawn allwn ni wneud i’w rwystro.

“Fel ASau, does ganddon ni ddim hyd yn oed yr hawl i’w feirniadu yn siambr Tŷ’r Cyffredin am ddweud celwydd noeth. Rhaid newid hynny.

“Bydd mwy o bobl nag erioed yn edrych ar lanast San Steffan a meddwl – ai dyma’r gorau allwn ni ei wneud?

“Diolch i Blaid Cymru, bydd Comisiwn Cyfansoddiadol Cymru yn fuan yn ystyried pob opsiwn cyfansoddiadol – gan gynnwys annibyniaeth. Dim ond trwy annibyniaeth allwn ni gael gwared ar system fudr San Steffan.

“O feddwl bod Boris Johnson yn cael ffasiwn effaith, ac o safbwynt dyfodol cyfansoddiadol Cymru – hir oes iddo yn ei swydd fel prif weinidog a sarjant recriwtio pennaf annibyniaeth Cymru.”

Mae Boris Johnson yn wynebu gwrthwynebiad gan ei blaid ei hun hefyd, gyda disgwyl i hyd at 80 o Aelodau Seneddol Ceidwadol bleidleisio yn erbyn rhai o’r elfennau o’I gynllun ar gyfer mynd i afael â Covid dros y gaeaf mewn pleidlais heno (14 Rhagfyr).

Mae’r rhan fwyaf yn flin dros y mesur i gyflwyno pasys Covid, ond mae’r dadleuon a’r honiadau dros yr wythnosau wedi ychwanegu at y gwrthwynebiad.

Ymhlith y materion hynny, mae’r ddadl dros safonau yn dilyn sgandal y cyn-Aelod Seneddol Owen Paterson, yr honiadau am y partïon, a’r ffaith fod Boris Johnson yn wynebu honiadau ei fod wedi camarwain ei ymgynghorydd moesoldeb am yr hyn roedd yn ei wybod am y gwaith adnewyddu ar ei fflat.

“Angen i Boris Johnson ymddiswyddo,” meddai Liz Saville-Roberts

Jacob Morris

Daw hyn wrth i adroddiadau ddweud y gallai’r ymchwiliad i barti Nadolig yn Downing Street gael ei ehangu i gynnwys digwyddiadau honedig eraill

“Rhagrith” Boris Johnson sydd bwysicaf i’r cyhoedd, medd academydd yn Abertawe

Dr Sam Blaxland yn ymateb i helynt partïon yn Downing Street yn groes i gyfyngiadau Covid-19