Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, wedi cael ei gyhuddo o fod yn ddi-hid ynghylch rheolau Covid ac o lywyddu dros “ddiwylliant o ddiystyru’r rheolau”.

Daw’r cyhuddiadau ar ôl i luniau ddod i’r fei ohono’n cymryd rhan mewn cwis ar-lein yn Downing Street.

Mae’r llun yn y Sunday Mirror yn ei ddangos o flaen sgrîn yn llyfrgell Rhif 10, ac mae un o’i gydweithwyr yn gwisgo tinsel.

Yn ôl Downing Street, fe gymerodd e ran “yn rhithiol” ac “am gyfnod byr” yn y cwis ar Ragfyr 15 y llynedd, dridiau cyn y parti dadleuol sy’n destun ymchwiliad.

“Tra bod y rheolau’n dweud na ddylai pobol gael partïon yn y gwaith a bod Prydeinwyr ledled y wlad yn gwneud y peth iawn, roedd Boris Johnson yn hytrach yn hapus i lywyddu dros ddiwylliant o ddiystyru’r rheolau wrth galon y llywodraeth,” meddai Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur.

“Er gwaetha’r gwadu dro ar ôl tro am y partïon yn Rhif 10, mae hi bellach yn dod i’r amlwg fod yna bartïon a chynulliadau niferus, a bod y prif weinidog hyd yn oed wedi cymryd rhan mewn cwis Nadoligaidd.

“Mae Boris Johnson wir yn credu bod yna un rheol iddo fe, a rheol arall i bawb arall.

“Mae e’n ddyn nad yw’n ffit i redeg y wlad hon.”

Y rheolau

Ar yr adeg dan sylw, roedd y rheolau’n dweud nad oedd hawl gan bobol gael parti na chinio Nadolig, er bod yn eithriadau at ddibenion gwaith, lle mae honno’n weithgaredd sy’n bennaf gymdeithasol ac nad yw’n cael ei ganiatáu yn ôl y rhanbarth mewn ardal benodol.

Adeg y cwis, roedd Llundain yn ardal Haen 2, lle nad oedd modd i aelwydydd gymysgu dan do, ar wahân i swigod cymorth, ac roedd uchafswm o chwech o bobol yn cael cyfarfod yn yr awyr agored.

Yn ôl y Sunday Mirror, roedd staff yn Downing Street yn ymgasglu o amgylch sgriniau cyfrifiaduron, yn trafod cwestiynau’r cwis ac yn yfed alcohol yn ystod y cwis.

Mae lle i gredu bod Boris Johnson wedi bod yn cwisfeistr am un rownd am hyd at chwarter awr.

Ymateb

“Cwis rhithiol oedd hwn,” meddai llefarydd ar ran Downing Street.

Dywed y llefarydd fod disgwyl i’r staff fod yn y swyddfa am gyfnodau hir i weithio ar y pandemig, ac felly mae’n bosib fod nifer o bobol wedi cymryd rhan yn y digwyddiad yn rhithiol.

Daw’r ymateb wrth i Simon Case, Gweinidog Cabinet San Steffan a phennaeth y Gwasanaeth Sifil, gynnal ymchwiliad i dri honiad o dorri rheolau yn ystod y gaeaf y llynedd.

Mae adroddiadau bod parti wedi’i gynnal yn Rhif 10 ar Ragfyr 18, gyda fideo bellach wedi dod i’r fei lle mae staff yn cellwair am y digwyddiad “ffug”.

Cafodd digwyddiad arall ei gynnal ar Dachwedd 27, yn ôl adroddiadau, i ddiolch i aelod o staff oedd yn gadael ei swydd, ac fe wnaeth Boris Johnson anerchiad.

Y trydydd digwyddiad yw dathliad Nadoligaidd yn yr Adran Addysg, ac mae swyddogion eisoes wedi ymddiheuro am hwnnw ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod staff Therese Coffey yn yfed alcohol ac yn bwyta têcawê “yn hwyr yn y nos” yn ystod cyfyngiadau Covid.

Mae ffynhonnell wedi dweud wrth y Press Association fod desgiau’n cynnal pellter cymdeithasol ac nad oedd yna “awyrgylch parti”.