Mae pleidleiswyr yng Nghaledonia Newydd yn bwrw eu pleidlais heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 12) ynghylch a ddylid aros yn rhan o Ffrainc neu fynd yn annibynnol.

Ond mae grymoedd o blaid annibyniaeth yn eu hannog i gynnal boicot oherwydd y pandemig a’r hyn maen nhw’n ei alw’n weithredoedd annheg gan y wladwriaeth.

Mae storm drofannol hefyd yn bygwth y refferendwm.

Mae lle i gredu bod y niferoedd sydd wedi bod yn pleidleisio’n sylweddol is na’r ddau refferendwm annibyniaeth blaenorol.

Mae Ffrainc yn awyddus i gadw grym gan eu bod nhw’n ystyried Tsieina yn fygythiad yn yr ardal Indo-Pacific.

Mae gan Galedonia Newydd, sydd i’r dwyrain o Awstralia, boblogaeth o ryw 270,000 a chafodd ei meddiannu gan nai Napoleon yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Y cwestiwn yn y refferendwm i bleidleiswyr mewn 307 o orsafoedd pleidleisio yw “A ydych chi eisiau i Galedonia Newydd ennill sofraniaeth lawn a dod yn annibynnol?”

Mae mesurau’r pandemig ar waith yn y gorsafoedd pleidleisio.

Yn y ddau refferendwm diwethaf, roedd 43.6% o blaid annibyniaeth yn 2018 a 46.7% o blaid y llynedd.

Ymgyrchu yn ystod y pandemig

Roedd yr ymgyrch tros annibyniaeth wedi bod yn ennill tir cyn y pandemig, gyda’r wlad yn un o’r ychydig wledydd yn y byd heb Covid.

Ond fe ddaeth y don gyntaf ym mis Medi.

Erbyn mis Tachwedd, roedd 271 o farwolaethau wedi bod, a chyhoeddodd y senedd ranbarthol flwyddyn o alaru yn y dull Kanak traddodiadol.

Doedd ymgyrchwyr, felly, ddim yn teimlo ei bod hi’n briodol iddyn nhw barhau i ymgyrchu, ac roedden nhw’n mynnu bod rhaid gohirio’r refferendwm.

Ond roedd y rhai o blaid aros yn rhan o Ffrainc yn mynnu parhau â’r bleidlais yn y gobaith o roi terfyn ar yr ansicrwydd ynghylch dyfodol y wlad ac i roi hwb i’r economi.

Dywedodd ymgyrchwyr o blaid annibyniaeth wedyn nad oedden nhw’n fodlon cymryd rhan, gan gyhuddo Llywodraeth Ffrainc o orfodi’r refferendwm ar y dyddiad penodol hwn ac o dorri niwtraliaeth drwy gyhoeddi dogfen oedd yn amau’r dyfodol pe bai’r wlad yn mynd yn annibynnol.

Mae Ffrainc yn ceisio adennill ei lle ymhlith gwledydd Indo-Pacific ar ôl colli cytundeb llongau tanfor gwerth biliynau o ddoleri oherwydd partneriaeth rhwng Awstralia, yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig.

Roedd yn ergyd i Ffrainc, gan fod gan Galedonia Newydd un o ddwy ganolfan filwrol Ffrainc yn y Môr Tawel.

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi bod yn cefnogi Caledonia Newydd i fynd yn rhydd, ac mae swyddogion yn monitro’r bleidlais, ynghyd â chynrychiolydd o Fforwm Ynysoedd y De.

Caledonia Newydd

Trigolion Caledonia Newydd yn dewis aros yn rhan o Ffrainc

Refferendwm annibyniaeth wedi’i gynnal – 53.3% o blaid aros, ond dim ond 46.7% o blaid gadael
Emmanuel Macron yn codi bawd

Caledonia Newydd wedi gwrthod annibyniaeth

56.4% o blaid aros o dan reolaeth Ffrainc