Mae Dr Rowan Williams, cyn-Archesgob Caergaint sydd wedi’i benodi i arwain comisiwn ar y Cyfansoddiad yng Nghymru, yn gofyn mewn erthygl yn The Spectator “ai undeb rhwng Cymru a Lloegr, heb unrhyw newid, yw lle mae unrhyw un eisiau bod?”
Wrth i’r Alban symud yn nes at annibyniaeth, gyda’r ymgyrch yng Nghymru wedi cymryd camau breision ymlaen dros y blynyddoedd diwethaf ac yn dilyn Brexit, mae dyfodol y Deyrnas Unedig wedi bod yn caek cryn sylw.
Mae disgwyl i’r comisiwn gyhoeddi eu hargymhellion erbyn diwedd 2023, a bydd ganddyn nhw rwydd hynt i ystyried a datblygu cyfres o opsiynau ar gyfer democratiaeth yng Nghymru, ac maen nhw eisoes yn dweud mai annibyniaeth i Gymru yw un o’r opsiynau hynny.
Bydd Rowan Williams a’r Athro Laura McAllister yn arwain y comisiwn ar ôl iddyn nhw gael eu penodi gan y prif weinidog Mark Drakeford, a byddan nhw’n arwain tîm o gynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol ac arbenigwyr mewn polisi a llywodraethiant.
Mae’r comisiwn eisoes dan y lach gan y Ceidwadwyr Cymreig am fod yn wastraff amser ac yn ffordd o gyflwyno annibyniaeth trwy’r drws cefn.
“Dw i ddim yn colli cwsg tros unrhyw feirniadaeth o’m record wleidyddol,” meddai cyn-Archesgob Caergaint yn The Spectator.
“Dw i’n cyfaddef i fi fynychu digwyddiadau Plaid Cymru yn fy arddegau, ond mewn gwirionedd, roeddwn i yn fy arddegau gryn amser yn ôl.”
Mae’n dweud bod dyfodol y Deyrnas Unedig yn fregus, a bod rhaid bod yn fwy creadigol er mwyn ei hachub.
“Os ydych chi eisiau cyflwyno achos tros yr Undeb, dw i ddim yn meddwl y gallech chi ei wneud e jyst trwy ddweud: “Mae popeth yn yr ardd yn hardd, does dim angen i ni boeni o gwbl”.
“Allwch chi ddim cyflwyno’r achos tros yr Undeb drwy ddweud y dylen ni ddychwelyd at fodelau cyn-datganoli.
“Ac os nad ydych chi’n gwneud y naill beth na’r llall, yna mewn gwirionedd, y sgwrs rydyn ni’n ceisio’i hannog yn y comisiwn yw’r union sgwrs y mae’n rhaid ei chael.”
Yr Alban
Yn gynharach eleni, dywedodd Rowan Williams fod Brexit yn “ddatrysiad oedd yn chwilio am broblem”.
Roedd e’n eithaf niwtral o ran annibyniaeth i’r Alban, ond yn awgrymu y gallai rhagor o bwerau ddod â phobol ynghyd.
“Yr Alban, rydyn ni i gyd yn gwybod am hynny,” meddai.
“Mae’r berthynas ag Iwerddon yn gymhleth, sydd wedi’i chymhlethu ymhellach gan Brexit.
“Mae’r cwestiwn ynghylch dyfodol Iwerddon fel ynys ar y bwrdd mewn ffordd na fu ers cryn amser.
“Ac mewn gwirionedd, y cwestiwn wedyn yw: Ai undeb rhwng Cymru a Lloegr, heb unrhyw beth yn newid, yw lle mae unrhyw un eisiau bod, pe bai gweddill yr Undeb yn newid yn radical neu’n chwalu?”
Ond dydy e ddim yn credu bod y dewis yn un syml rhwng aros neu adael.
“Mae annibyniaeth yn faner gyfleus i’w chwifio, ond mae hi mewn gwirionedd yn adlewyrchu sbectrwm o bosibiliadau cyfansoddiadol,” meddai.
“Os ydych chi’n siarad am y lefel briodol o hunanlywodraeth i Gymru fel cenedl, dyna’r mater i fi.
“Dw i ddim yn credu bod rhaid i annibyniaeth olygu, o fewn tair blynedd, ein bod ni’n sydyn yn dod yn Wlad yr Iâ.
“A pheidied neb â meddwl fod hyn i gyd ychwaith yn orchudd ar gyfer cynnal gwleidyddiaeth wedi’i chanoli yn San Steffan ar bob cyfri.”
Cadw meddwl agored
Dywed wedyn ei fod yn “cadw meddwl agored” ynghylch y dyfodol, er gwaethaf ei wreiddiau fel cefnogwr Plaid Cymru.
“Dw i eisiau gweld beth sy’n gweithio orau i Gymru fel realiti gwleidyddol hunanymwybodol, hunanbarchus,” meddai.
“Mae’n mynd a dod, on’d yw e?”
Mae’n dweud ei fod yn poeni am wleidyddiaeth yn San Steffan ar hyn o bryd, a’i bod wedi’i “pholareiddio” ac yn “anhyblyg iawn mewn rhai ffyrdd”.
“Mae’n adlewyrchu’r math o ddiwylliant rydyn ni ynddo – math o ddiwylliant sydd wedi’i bolareiddio, sy’n fyr dymor ac yn llawn sloganau,” meddai.
“Mae hi wedi creu argraff arna i nad yw gwleidyddiaeth yng Nghymru wedi’i thraflyncu gan hynny.
“Gallwch chi resymegu system pedair gwlad.
“Gwlad fach iawn ac un lawer mwy… mae hynny’n canolbwyntio’r meddwl.
“Os ydych chi, yn wir, wedi ymrwymo i’r Undeb ac eisiau iddi weithio, allwch chi ddim cymryd y bydd yn llwyddo heb wneud unrhyw beth.
“Mae’n ymwneud â hunanddelwedd pobol o Gymru.
“Beth maen nhw’n credu ydyn ni? Beth ydyn ni’n credu ydyn ni?
“Ble ydyn ni eisiau bod?”