Boris Johnson yw’r “arweinydd gwaethaf posib ar yr adeg waethaf posib”, yn ôl Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan, sy’n dweud ei bod hi’n “edrych fel pe bai” e wedi torri rheolau Covid wrth gymryd rhan mewn cwis ar-lein fis Rhagfyr y llynedd.
Dywed ei bod hi’n “anodd iawn” gweld sut nad oedd y cwis “yn cydymffurfio â’r rheolau”, ar ôl i’r Sunday Mirror gyhoeddi llun y prif weinidog fel cwisfeistr yn ymyl cydweithwyr, ac un ohonyn nhw’n gwisgo tinsel, yn llyfrgell Downing Street.
Cafodd y digwyddiad ei gynnal yn ystod cyfyngiadau Haen 2 yn Llundain oedd yn atal pobol rhag cyfarfod â phobol y tu allan i’w swigod.
Mae Downing Street yn dweud ei fod e wedi cymryd rhan “yn rhithiol” yn y cwis “am gyfnod byr” ar Ragfyr 15, 2020, dridiau yn unig cyn parti Nadolig Rhif 10 sydd hefyd yn destun ymchwiliad.
Adeg y cwis, doedd dim hawl gan bobol gynnal partïon gwaith na chael cinio na pharti “cymdeithasol yn bennaf” oni bai mai “dibenion gwaith” oedd y prif reswm.
‘Rhaid ei fod e’n gwybod’
“Mae’n edrych fel pe bai e” yn torri’r rheolau, meddai Syr Keir Starmer wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.
“Mae’n rhaid ei fod e’n gwybod fod grwpiau eraill yn yr ystafelloedd eraill yn ei adeilad ei hun,” meddai.
Yn ôl y Sunday Mirror, dywedodd ffynhonnell fod nifer o bobol wedi ymgynnull o amgylch sgriniau cyfrifiaduron yn swyddfeydd Downing Street, yn trafod cwestiynau ac yn yfed alcohol yn ystod y cwis.
Yn ôl adroddiadau, roedd Boris Johnson yn gwisfeistr am un rownd am hyd at chwarter awr.
Er gwaethaf hyn, dydy Syr Keir Starmer ddim yn galw ar y prif weinidog i ymddiswyddo, ond mae’n dweud mai fe yw’r “arweinydd gwaethaf posib ar yr adeg waethaf bosib”.
Mae’n dweud y gallai’r digwyddiadau fod wedi tanseilio’r ymdrechion diweddar i fynd i’r afael â’r amrywiolyn newydd Omicron.
Beirniadu’r feirniadaeth
Ond yn ôl Nadhim Zahawi, un o weinidogion Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig, mae Llafur wedi cymryd y safiad “anghywir” ynghylch y mater.
Mae e wedi amddiffyn Boris Johnson yn erbyn y cyhuddiadau ei fod e wedi torri’r rheolau.
“Beth ydyn ni’n ei weld yn y llun hwnnw?” meddai ar raglen Trevor Phillips on Sunday ar Sky News.
“Rydyn ni’n gweld prif weinidog ar noson gwis rhithiol am ddeg i bymtheg munud yn diolch i’w staff a oedd, gyda llaw, heb ddewis ond dod i mewn bob dydd.
“Yn eistedd yn ei swyddfa mae dau o bobol sy’n gweithio agosaf gyda fe, dim alcohol ar y bwrdd, ddim yn yfed, ar alwad Zoom neu Teams, galwad rithiol yn parchu rheolau’r cyfnod clo.
“Byddai nifer o bobol wedi cael nosweithiau cwis Zoom tebyg o amgylch y wlad.”
Dywed ymhellach nad oes “rheol yn erbyn cydnabod y Nadolig gyda thinsel neu het”, a bod cyfle i’r cyhoedd “benderfynu” drostyn nhw eu hunain o weld y llun beth oedd yn digwydd.