Mae tri o bobol wedi marw ac mae chwech arall ar goll ar ôl i ffrwydrad ddymchwel adeilad ar ynys Sisili.

Mae lle i gredu mai nwy yn gorlifo oedd wedi achosi’r ffrwydrad yn yr adeilad lle’r oedd naw aelod o’r un teulu yn byw a lle’r oedd dau aelod arall o’r teulu’n ymweld â nhw yn nhref Ravanusa neithiwr (nos Sadwrn, Rhagfyr 11).

Cafodd dwy ddynes eu hachub o’r safle, ac roedd un ohonyn nhw’n 80 oed ac yn dweud bod y goleuadau wedi’u diffodd a’r nenfwd a’r lloriau wedi’u dymchwel yn dilyn ffrwydrad.

Cafodd ei chwaer-yng-nghyfraith, oedd yn byw un llawr uwch ei phen, ei hachub hefyd ar ôl bod o dan rwbel.

Fe wnaeth y ffrwydrad achosi i dri adeilad arall gwympo, a chafodd ffenestri tri adeilad arall eu torri.

Mae lle i gredu mai lifft oedd yn ddiffygiol oedd gwraidd y ffrwydrad, a bod hynny wedi achosi ffrwydrad mewn gwresogydd.