Mae’r cyfnod clo ar ben yn Awstria i bobol sydd wedi’u brechu, ond bydd y rhai sydd heb eu brechu’n parhau i gael eu cyfyngu.
Daw’r cyfyngiadau newydd hynny i rym heddiw, dair wythnos ar ôl i’r cyfyngiadau blaenorol gael eu cyflwyno.
Maen nhw’n amrywio o un rhanbarth i’r llall, ond ar y cyfan gall theatrau, amgueddfeydd a lleoliadau diwylliannol eraill ailagor heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 12), a bydd siopau’n cael agor eto o fory (dydd Llun, Rhagfyr 13).
Bydd cyrffiw o 11 o’r gloch y nos ar gyfer bwytai, a bydd gofyn i bobol wisgo mygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn siopau ac mewn llefydd cyhoeddus.
Gall pob rhanbarth addasu’r cyfyngiadau’n unigol fel bo angen.
Ond bydd pobol sydd heb eu brechu’n gorfod parhau i ddilyn cyfyngiadau’r cyfnod clo, gan aros gartref oni bai bod rhaid mynd i siopa, mynd at y meddyg neu gael ymarfer corff.
Mae’r gyfradd achosion wedi gostwng yn sylweddol dros y chwe wythnos diwethaf, ond dydy nifer y derbyniadau i’r ysbyty ddim wedi gostwng mor sylweddol, gyda 567 o bobol mewn unedau gofal dwys â Covid – dim ond pump yn llai na chwe wythnos yn ôl.
Mae’r awdurdodau’n parhau i bwysleisio mai cyfraddau brechu yw’r allweddol i gael rheolaeth ar y feirws.
Dim ond 67.7% o’r boblogaeth sydd wedi’u brechu’n llawn, ac mae’r gyfradd honno’n is na rhannau helaeth o orllewin Ewrop.
Bydd hi’n orfodol ym mis Chwefror i bawb dros 14 oed gael eu brechu, a bydd dirwy o 3,600 Ewro (tua £3,070) i bobol sydd heb eu brechu erbyn hynny.
Mae degau o filoedd o bobol wedi bod yn protestio yn erbyn y cynllun hwnnw a’r cyfyngiadau eraill, ac roedd 44,000 yn y brifddinas Fienna ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 11).