Mae Jordi Puigneró, dirprwy arlywydd Catalwnia, yn rhybuddio bod sefydlogrwydd y llywodraeth “mewn perygl”.
Daw ei sylwadau mewn cyfweliad ag El Punt Avui, wrth iddo godi amheuon am y cytundeb â’r blaid annibyniaeth asgell chwith CUP, a hynny wedi iddyn nhw a Junts per Catalunya fethu â chytuno ar Gyllideb 2022 ar gyfer Catalwnia.
O ganlyniad i hynny, daeth ERC, y brif blaid yn y llywodraeth, i gytundeb gydag En Comú Podem, plaid nad yw o reidrwydd o blaid annibyniaeth.
Roedd Junts yn gwrthod cymryd rhan mewn trafodaethau ag ECP, er eu bod nhw’n gyfrifol am weinyddiaeth yr economi o dan Jaume Giró ac mai nhw oedd wedi llunio’r cynllun gwariant gwreiddiol ar gyfer 2022.
“Mae gennym ni gytundeb gydag ERC y mae’n rhaid cydymffurfio ag e,” meddai Jordi Puigneró wrth iddo gwestiynu pa mor sefydlog yw’r cytundeb hwnnw os nad yw’r cytundeb â CUP yn dal yn bodoli.
“Yr hyn sydd yn y fantol yw sefydlogrwydd, p’un a oes gan y llywodraeth [sefydlogrwydd] neu beidio.”
Mae e hefyd wedi beirniadu’r cytundeb rhwng ERC a Llywodraeth Sbaen ynghylch cwotâu iaith yn y ddeddf yn ymwneud â deunydd clywedol-weledol a gafodd ei chytuno yn gyfnewid am yr ERC yn hwyluso Cyllideb Sbaen.
Yn ôl y ddeddf, bydd rhaid i 6% o gynnyrch y cyfryngau fod yn yr ieithoedd brodorol, ond fydd hyn ddim yn effeithio llwyfannau rhyngwladol a chwmnïau fel Netflix, Amazon Prime a HBO Max.
“Briwsion” yw’r ddeddfwriaeth, yn ôl Puigneró, ond mae ERC yn mynnu bod rhaid parhau i drafod gyda Sbaen ynghylch ystod eang o faterion, gan gynnwys annibyniaeth i Gatalwnia.
Mae Puigneró yn credu bod “trochi ieithyddol” yn y system addysg yn “bwysig iawn” er mwyn gwarchod y Gatalaneg.
Mae ffrae hefyd ar y gweill ynghylch ehangu maes awyr Barcelona.
Roedd Puigneró a Junts per Catalunya o blaid y prosiect, tra bod ERC o blaid ar yr amod na fyddai’n niweidio’r amgylchedd.
Doedd dim cytundeb yn y pen draw ar ôl i’r trafodaethau ddod i ben yn aflwyddiannus – byddai’n rhaid bod llywodraethau Catalwnia a Sbaen yn gytûn er mwyn parhau â’r cynllun.
Dim ond ers mis Mai mae’r llywodraeth bresennol mewn grym yng Nghatalwnia, a hynny yn dilyn etholiad mis Chwefror.